Part of the debate – Senedd Cymru am 3:27 pm ar 7 Mawrth 2017.
Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau penodol iawn. Mi wnes i, hefyd, fwynhau, a dysgu llawer yn ystod yr ymweliad â Bryncethin. Rwy'n dysgu llawer iawn wrth fynd o gwmpas yn cyfarfod â staff rheng flaen, ac rwy'n gwbl hyderus fy mod i wedi cyfarfod dros 100 o staff rheng flaen yn y gwasanaeth ambiwlans yn ystod y pythefnos diwethaf, ac mae pob un ohonyn nhw wedi bod onest iawn gyda mi am yr hyn y maen nhw’n credu sydd wedi gweithio, ac, yn wir, y meysydd hynny lle maen nhw’n credu bod gwelliant i’w wneud o hyd. Mae o fudd i bawb nad wyf i’n un o'r parafeddygon hynny nawr, oherwydd rwy’n sicr na allwn i wneud yr hyn y maen nhw’n ei wneud. Ac roedd gweld y cyfarpar a’r offer newydd sydd ganddyn nhw ar gyfer eu dysgu yn ymarfer diddorol iawn hefyd.
Ond rwy’n hapus i ymdrin â'ch prif bwynt, sef y pwynt am y sgan CT o fewn un awr o dderbyn claf, i ddilyn yr hyn y mae Angela Burns eisoes wedi ei ddweud hefyd. Rwy'n gobeithio y gallaf roi rhywfaint o sicrwydd uniongyrchol i chi a’r Aelodau eraill y bydd hyn yn rhan o'r hyn y byddaf yn disgwyl ei weld yn cael ei fesur yn yr archwiliad SNAP. Felly, bydd gwasanaethau strôc ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn cael eu mesur ar sail eu gallu, rwy’n disgwyl, i gyflawni yn erbyn hynny mewn mesur agored a didwyll y gellir ei archwilio, i ddeall ein sefyllfa bresennol ac yn y dyfodol hefyd. Felly, rwy’n disgwyl i hynny gael ei adrodd yn rhan o wella disgwyliad hefyd. Ond dychwelaf at y pwynt hwn am ad-drefnu gwasanaethau hyperacíwt, y gwnaethoch chi sôn amdano hefyd, a byddwn yn disgwyl gweld hynny yn rhan o'r ymgyrch ad-drefnu honno. Oherwydd nid oes unrhyw bwynt dweud ein bod ni eisiau ad-drefnu gwasanaethau os nad ydym ni’n bodloni’r safonau gwasanaeth sydd gennym ni nawr, er ein bod ni’n disgwyl cyflawni hyn yn y dyfodol, oherwydd ni fyddwn yn gweld y math o lefelau yr hoffem ni i gyd eu gweld ar unwaith. Yr her yw: sut ydym ni'n sicrhau bod gennym ni staff yn y lle iawn a gwasanaethau yn y lle iawn i ddarparu'r gofal priodol? Felly, ydw, rwy’n disgwyl i hynny fod yn rhan o'r hyn y mae'r gwasanaeth yn bwriadu ei gyflawni wrth ddiwygio'r ffordd yr ydym ni’n darparu gwasanaethau strôc. Rwy’n gobeithio bod hynny’n ddefnyddiol, nid yn unig i chi ac i Angela Burns, ond i’r Aelodau eraill sy’n gwrando yn y Siambr hon, a’i fod yn rhoi’r sicrwydd hwnnw am y disgwyliadau ar gyfer unrhyw ad-drefnu.
O ran eich pwynt olaf, sef y gwahoddiad—nid wyf wedi edrych yn fy nyddiadur, ond rwy'n siŵr y bydd gwahoddiad ffurfiol yn dod. Oherwydd rwy’n cydnabod bod bywyd ar ôl strôc. Ac rwy’n cydnabod bod rhai pobl yn marw hefyd. Rwyf wedi gweld gwellhad ar ôl strôc, ac rwyf wedi gweld fy nhad fy hun yn marw ar ôl ei bedwar strôc, felly rwy’n cydnabod y materion real iawn sy'n wynebu teuluoedd yn y sefyllfa benodol hon. Felly, byddaf yn hapus iawn i ystyried gwahoddiad ffurfiol, ond ni allaf ymrwymo’n bendant oherwydd, ar hyn o bryd, ni allwn ddweud wrthych yn union beth rwyf i fod i’w wneud ar 21 Mai.