Part of the debate – Senedd Cymru am 3:35 pm ar 7 Mawrth 2017.
A gaf innau hefyd groesawu'r cynllun newydd, a dymuno pob lwc i chi â hynny? Mae gennyf ychydig o gwestiynau, gan ddechrau, mewn gwirionedd, lle gorffennodd Huw Irranca-Davies, a'r cwestiwn am y defnydd o sganwyr. Rwy’n gwerthfawrogi na fyddwch yn gallu ateb y cwestiwn hwn yn y Siambr heddiw, ond tybed a wnewch chi ystyried gwneud datganiad ar ryw adeg ynglŷn â’r peiriannau sganio sydd ar gael nad oes ganddynt ddigon o bobl i'w gweithredu bob awr o’r dydd a’r nos. Rydym ni’n dal i gael darnau achlysurol o waith achos ar hyn—am bobl yn mynd i wahanol adrannau ag amheuaeth o strôc, a chyflyrau eraill, lle mae peiriannau sganio ar gael, ond nad oes unrhyw un ar gael i’w gweithredu. Felly, tybed a wnewch chi efallai roi datganiad inni am hynny, yn y dyfodol.
Ond, yn ymwneud yn benodol â hyn yn awr, a gaf i ofyn i chi am yr adolygiad goroeswr strôc chwe mis, a'r berthynas rhwng y GIG a'r trydydd sector a gweithwyr gofal ar hyn? Nawr, rwy'n rhagdybio, os bydd rhywun yn derbyn gofal yn bennaf gan aelod o'r teulu, fel y mae cynifer o bobl, bydd yr aelodau hynny o'r teulu yn cael eu cynnwys mewn unrhyw drafodaethau. Ond, pan nad oes gan rywun y fantais honno, a’i fod yn bennaf yn derbyn gofal gan weithwyr gofal, a wnewch chi roi rhyw syniad i ni ynglŷn â phwy y byddech yn disgwyl iddynt fod yn rhan o'r trafodaethau hynny? Gallai fod yn weithiwr cymdeithasol unigol, os ydynt yn ddigon anabl o ganlyniad i'w strôc. Ond y cyfan rwy’n ei wneud yw chwilio am ffyrdd o wneud yn siŵr nad oes neb yn cael eu hepgor yn ddamweiniol o'r weithdrefn ddefnyddiol hon.
Roeddwn wedyn eisiau gofyn i chi am y gwasanaeth rhyddhau â chymorth arbenigol, i alluogi pobl â strôc i gael eu hadsefydlu gartref, neu mewn cartref gofal. Yr hyn yr wyf yn ei ofyn mae’n debyg yw, ‘Pam nad yw hyn yn digwydd nawr?’ Mae oedi wrth drosglwyddo gofal yn broblem wirioneddol, am nifer o resymau, ond un ohonynt yw y gall fod yn anodd iawn cael pecyn priodol o ofal at ei gilydd ar gyfer yr unigolyn sy’n ceisio gadael y lleoliad aciwt. Felly, a wnewch chi roi rhyw syniad i ni o'r hyn sydd ar goll o’r pecynnau oedi wrth drosglwyddo gofal hyn i ddioddefwyr strôc, ac efallai rhoi syniad i ni ai cyfrifoldeb y lleoliad aciwt neu’r tîm gofal sylfaenol fydd y monitro parhaus o'r gweithgarwch adsefydlu y bydd yr unigolyn hwnnw yn ei gael? Oherwydd ei bod yn debygol y bydd wedi cael ei gynllunio gan y gweithwyr adsefydlu proffesiynol yn yr ysbyty, yn hytrach nag yn y lleoliad gofal sylfaenol. Felly, mae'n fater o wneud yn siwr, unwaith eto, bod rhywun yn cymryd y cyfrifoldeb cyffredinol am yr unigolyn hwnnw, yn hytrach na bod dau o bobl naill ai'n cytuno bod y ddau ohonynt yn gyfrifol neu nad yw’r naill na’r llall yn cymryd y cyfrifoldeb.
Ac yna, yn olaf—