Part of the debate – Senedd Cymru am 3:38 pm ar 7 Mawrth 2017.
Hwn yw’r un olaf. Rwy'n hynod, hynod falch eich bod wedi codi’r peryglon iechyd meddwl i ddioddefwyr strôc. Ac, i'w gadw'n fyr, rwy’n chwilfrydig i wybod sut y mae'r cynllun hwn yn cyd-fynd â ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’, ac, yn arbennig, y cyllid ychwanegol a gyflwynwyd y llynedd, ac a oes unrhyw ran o hwnnw'n cael ei glustnodi ar gyfer dioddefwyr strôc, gan gofio bod y rhain yn gyflyrau cydafiachedd cymhleth iawn. Diolch.