Part of the debate – Senedd Cymru am 3:39 pm ar 7 Mawrth 2017.
Fe wnaf ymdrin â'r pwynt olaf yn gyntaf. Nid ydym wedi mabwysiadu dull o ddweud bod cyflyrau penodol lle byddwn yn ystyried, yn enwedig yn ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’, anghenion iechyd meddwl yr unigolyn hwnnw, oherwydd rwy’n credu mai’r her fydd, y gallem yn hawdd gysylltu arian a gweithgareddau mewn modd a fyddai mewn gwirionedd yn gwastraffu ein hadnoddau, yn hytrach nag ychwanegu atynt. Yr her, rwy’n meddwl, yw bod â dull gwasanaeth cyfan i weld yr unigolyn cyfan, a dealltwriaeth o—fel y dywedais wrth ymateb i Rhun ap Iorwerth—nid dim ond gweld yr unigolyn hwnnw sydd â chyflwr corfforol, ond ei weld fel unigolyn cyfan, a beth sy'n bwysig iddo.
A dyna pam y mae’r gwaith ar fesurau yn ymwneud â’r profiad a adroddir gan gleifion yn wirioneddol bwysig, oherwydd bod hynny’n gofyn i’r unigolyn hwnnw am yr hyn sy'n bwysig iddo, a sut yr ydym wedyn yn gwneud yn siŵr ein bod yn gallu deall hynny a mesur hynny mewn ffordd sy'n ystyrlon iddo. Felly, hyd yn oed os yw ei ganlyniadau clinigol yn dda, mewn gwirionedd efallai nad yw hynny’n golygu ei fod yn gadael, os mynnwch chi, y rhan o'r gwasanaeth gofal corfforol nes ei fod, mewn gwirionedd, yn hapus a bodlon, ac mae hynny'n gwneud gwahaniaeth mawr iawn o ran ei les cyffredinol. Felly, mae'n rhywbeth yr ydym ni’n rhoi amser a sylw gwirioneddol iddo, a dyna pam, rwy’n credu, pan fyddwn yn dod yn ôl i 2018 a deall beth fydd y mesurau hynny, bydd gennym lawer mwy o wybodaeth am yr hyn a allai ac a ddylai wneud gwahaniaeth a meddwl am lais y dinesydd wrth gyfarwyddo rhywfaint o'r gofal a pha ganlyniadau sy’n bwysig iddo fe. Felly, mae ymgais wirioneddol ac ystyrlon i gael y sgwrs honno ym mhob rhan o'r gwasanaeth, ac nid dim ond ceisio ei gyfyngu i rai meysydd. Rwy’n sylweddoli bod hwnnw’n un dull, ond nid wyf yn credu y byddai'n cyflawni'r gwerth gorau i ni.
O ran eich pwynt cyntaf ynghylch pa un a oes staff ar gael i ymgymryd ag unrhyw sganiau, byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn gweld enghreifftiau penodol o'r sefyllfa a sut y mae hynny'n cyd-fynd â’n gallu i gynllunio'r gweithlu, y buddsoddiadau yr ydym wedi'u gwneud o ran pa bobl a ble y maen nhw, ac, yn wir, ad-drefnu'r gwasanaeth. Byddwn i’n falch iawn pe byddech chi’n anfon gohebiaeth ataf ar yr enghreifftiau sydd gennych.
O ran gofal sylfaenol ac eilaidd, mae brwydr gyson i ddeall sydd pwy mewn gwirionedd sy’n gyfrifol, ond nid oes unrhyw un yn y Gymdeithas Strôc wedi sôn wrthyf am hynny a dweud ei fod yn pryderu, er enghraifft, nad oes dealltwriaeth o gyfrifoldeb, naill ai pwy sydd â'r cyfrifoldeb dros adsefydlu na deall pwy, mewn gwirionedd, fydd yn cynnal yr adolygiadau o gleifion. Mae eu pryderon ehangach nhw wedi bod yn ynghylch pa un a oes gennym y nifer iawn o bobl yn gweithio yn y timau cywir yn hytrach na pha un ai gofal sylfaenol neu eilaidd sy’n arwain ar yr adeg honno.
O ran rhai o'ch pwyntiau am eiriolaeth, lle nad oes gan bobl aelodau o'r teulu i fynd gyda nhw pan fo rhai adolygiadau yn cael eu cynnal, unwaith eto, mae gen i ddiddordeb mewn cael gwybod a oes gennych chi enghreifftiau penodol o fylchau yr ydych chi’n eu nodi yn hytrach na sylwadau mwy cyffredinol. Gallai fod. Byddai gennyf ddiddordeb yn yr hyn y mae hynny'n ei olygu a’r sefyllfa ar hyn o bryd, a byddwn i’n falch iawn o ymdrin yn briodol â hynny. Gwn fod y grŵp trawsbleidiol i fod i gyfarfod ymhen ychydig wythnosau. Nid wyf yn credu y gallaf ddod i'r cyfarfod cyntaf, ond rwy’n disgwyl y bydd nifer o bwyntiau o’r grŵp hwnnw a allai fod yn ddefnyddiol i’w coladu a'u hanfon ataf, a gallaf, gobeithio, ymateb mewn ffordd gynorthwyol ac adeiladol i sylwadau a gaiff eu gwneud. Ond, yn gyffredinol, o ran oedi wrth drosglwyddo gofal, mae gennym hanes da. Mae nifer yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal yn gostwng, ac mae goruchwyliaeth a disgwyliad y gweinidogion yn parhau ar gyfer gwelliannau pellach. Mewn unrhyw feysydd lle yr ydym yn gweld bod bylchau eraill yn dal i fodoli, rwyf eisiau deall pam y mae’r rheiny yno a beth y gallwn ni ddisgwyl i’n system iechyd a gofal gyfan ei wneud yn eu cylch. Felly, byddwn yn falch iawn o dderbyn yr ohebiaeth honno ac wedyn edrych ar rai o fanylion yr hyn y gallwn ei wneud i weld gwelliant pellach mewn gwasanaethau strôc ledled Cymru.