Part of the debate – Senedd Cymru am 4:08 pm ar 7 Mawrth 2017.
Rwy’n siarad o blaid yr ail gyllideb atodol, ond mae tri phwynt yr hoffwn eu codi. Yn gyntaf, ar y gyllideb iechyd, yn ôl y dystiolaeth a gafodd y Pwyllgor Cyllid—ac rwyf am ddyfynnu o'r adroddiad—
Mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys £180 miliwn o refeniw cyllidol, neu refeniw arian parod, £4 miliwn o refeniw nad yw'n arian parod a £3 miliwn o gyfalaf i'r portffolio Iechyd, Llesiant a Chwaraeon. O'r dyraniadau refeniw cyllidol ychwanegol a wnaed i adrannau, mae 71.5% yn mynd i'r portffolio hwn.'
Mae'n 71.5 y cant pan fo’r gyllideb yn nes at 50 y cant, felly petai wedi ei gael ar sail pro rata yn unig byddai wedi bod yn rhedeg ar tua 50 y cant, yn hytrach na 71.5 y cant.
'Mae hyn yn cynnwys £75.9m i helpu i fynd i’r afael â gorwariant o’i gymharu â’r rhagolygon gan fyrddau iechyd (cyhoeddwyd £68.4m ym mis Tachwedd a dyrannwyd £7.5m arall ym mis Ionawr).'
Roedd hynny’n syndod. Fy mhrofiad i o fyrddau iechyd a'r hen fyrddau ysbyty oedd eu bod yn gorwario yn y chwarter cyntaf —yn aruthrol—yn gorwario ychydig yn yr ail chwarter, ac yna’n dechrau dod â phethau yn ôl yn y trydydd a'r pedwerydd chwarter. Yr hyn yr ydym wedi ei weld yma mewn gwirionedd yw parhau i orwario yn y trydydd chwarter, sydd i mi yn syndod, yn siomedig ac yn creu problemau.
£50m i liniaru pwysau’r gaeaf ac i gynnal a gwella perfformiad yn ystod cyfnod y gaeaf; £27m i fynd i'r afael â'r diffyg incwm amcanol yn sgil y Cynllun Rheoleiddio Prisiau Fferyllol; £16m i gefnogi lansiad y Gronfa Triniaethau newydd; £1m ar gyfer y gwasanaeth ambiwlans awyr.'
Mae cyllid ar gyfer pwysau'r gaeaf wedi ei gynnwys mewn ail gyllidebau atodol yn y blynyddoedd diweddar; £50 miliwn yn 2016-17; £45 miliwn yn 2015-16 a £40 miliwn yn 2014-15.'
Rwy'n fodlon cael fy nghywiro gan eraill, ond nid yw wedi bod yn aeaf arbennig o oer, ac nid wyf wedi gweld unrhyw dystiolaeth o achos mawr o ffliw, felly nid wyf yn deall pam mae angen i arian ychwanegol ar gyfer pwysau’r gaeaf fod yn y gyllideb atodol. Naill ai mae ei angen bob blwyddyn, ac fe ddylai fod yn y gyllideb sylfaenol, neu nid oes ei angen.
A gaf i droi at argymhelliad 1 y pwyllgor, sef y dylai Llywodraeth Cymru adolygu a oes unrhyw ffactorau strwythurol, nad ydynt yn cael eu hystyried ar hyn o bryd yn nyraniadau’r byrddau iechyd, sy'n effeithio ar allu’r byrddau iechyd i ddarparu gwasanaethau o fewn yr adnoddau a ddyrannwyd iddynt. Llywodraeth Cymru ddylai roi unrhyw newidiadau i'r dyraniadau cyllid ar waith?
Os oes dau fwrdd iechyd angen arian ychwanegol bob blwyddyn, yna naill ai mae’r fformiwla sy’n dyrannu'r cyllid yn anghywir ac yn golygu nad ydynt yn cael digon o arian—sy'n golygu eu bod yn gorfod gofyn am arian ychwanegol bob blwyddyn—neu nid ydynt yn rheoli eu hadnoddau’n effeithiol, neu gyfuniad o'r ddau. Rwy’n falch dros ben bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid wedi dweud yn y Pwyllgor Cyllid ei fod yn gweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon er mwyn canfod a oedd materion yn sail i'r gorwariant a oedd y tu hwnt i reolaeth y byrddau iechyd dan sylw.
Ond ni allwn barhau i gynyddu canran yr arian yr ydym yn ei wario ar iechyd—nes i ni gyrraedd 100 y cant; bryd hynny, mae'n rhaid i ni stopio. Ond mae llawer iawn o wasanaethau eraill hefyd. Rwy’n mynd i fod yn ddiflas nawr, oherwydd fy mod yn dweud hyn drwy'r amser: dylem fod yn gwario mwy o arian ar geisio atal pobl rhag bod yn sâl yn y lle cyntaf, gwella iechyd pobl, ceisio gostwng diabetes math 2 drwy wneud i bobl golli pwysau a pheidio â chyrraedd y sefyllfa honno, ceisio cael pobl i symud mwy fel nad ydynt yn tueddu i gael y problemau sy'n gysylltiedig ag anweithgarwch. Ac yn bwysicaf oll—yr oeddwn am ddyfynnu David Melding am rywbeth a ddywedodd rai blynyddoedd yn ôl, cyn i mi ddod yn Aelod yma—y peth pwysicaf y gellir ei wneud yw atal pobl rhag ysmygu. Ac os gallwn wneud mwy i atal pobl rhag ysmygu, yna gallwn ymdrin â rhai o'r problemau iechyd. Y peth arall yw—ac rwyf wedi dweud hyn lawer gwaith o'r blaen, ond rwy'n mynd i’w ddweud eto—a allwn ni sicrhau nad yw meddygon yn ymgymryd ag ymyraethau sydd naill ai’n gwneud drwg neu'n gwneud dim lles?
Yn fyr, ar ddau bwynt arall: mae fy nghefnogaeth i fuddsoddi i arbed yn gwbl hysbys, ac rwyf yn diolch i Nick Ramsay am fy arwain i ar hyn, ond byddai dalen incwm a gwariant yn ddefnyddiol iawn. Rwy’n deall y bydd rhai cynlluniau buddsoddi i arbed yn cymryd mwy o amser i’w talu yn ôl nag yr ydym yn ei ddisgwyl. Mae hynny'n anochel, ac os na fyddent, ni fyddem yn defnyddio'r cynllun yn effeithiol oherwydd na fyddem ond yn chwarae’n saff. Mae gennym grŵp o bobl resymol ar y Pwyllgor Cyllid, ac rwyf yn credu os byddwn yn gweld bod rhai ohonynt yn cymryd pum mlynedd yn hytrach na thair blynedd, ond bod y bwriad yno, yna nid ydym yn mynd i feirniadu ac ymosod ar y Llywodraeth am wneud rhywbeth os yw'n gwneud lles. Mae hefyd yn golygu y gall pobl adnabod y rhai nad ydynt yn werth eu hefelychu mewn meysydd eraill. Nawr, rwyf yn credu mai’r perygl yw, os nad ydym yn nodi’r rhai sy'n cymryd ychydig mwy o amser i dalu yn ôl, gallai pobl benderfynu efelychu’r rheiny pan nad yw'n fanteisiol.
Yn olaf, mae nifer o newidiadau yn y gyllideb atodol yn gysylltiedig ag ariannu benthyciadau i fyfyrwyr. Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio system fodelu gymhleth i amcangyfrif y gost o ddarparu benthyciadau i fyfyrwyr a gwerth presennol y llyfr benthyciadau presennol. Fy mhryder i yw—ac nid yw ar gyfer y gyllideb atodol hon, ond mae'n cael ei grybwyll mewn ffordd ar gyfer y Llywodraeth—30 mlynedd ar ôl dechrau’r system benthyciadau, bydd benthyciadau’n dechrau cael eu dileu. A oes unrhyw risg yn wynebu Llywodraeth Cymru pan fyddwn yn dod at ddileu’r benthyciadau i fyfyrwyr cyntaf? Pwy fydd yn talu’r gost? Pan fyddwn yn cyrraedd yr adeg o 30 mlynedd wedi iddynt fynd i fyny i £9,000, mae'n mynd i fod yn waeth byth. Felly, dim ond cwestiwn ydyw mewn gwirionedd—nid ar gyfer nawr, ond efallai ar gyfer y dyfodol. Beth fydd yn digwydd â'r benthyciadau i fyfyrwyr wrth iddynt beidio â chael eu talu?