Part of the debate – Senedd Cymru am 4:36 pm ar 7 Mawrth 2017.
Diolch, Lywydd. A gaf innau hefyd ategu’r diolch sydd wedi ei fynegi i’r prif arolygwr a’i dîm yn Estyn am y gwaith maen nhw’n ei wneud, a hefyd am y modd y maen nhw yn ymgysylltu â’r pwyllgor plant a phobl ifanc yma yn y Cynulliad drwy gynnig tystiolaeth a bod mor barod—yn y cyd-destun yma beth bynnag—i ddod â’u adroddiad blynyddol ger ein bron ni?
Rydw innau hefyd am ffocysu ar amrywioldeb, a rydw i’n ddiolchgar bod y cynnig wedi cael ei osod gan y Ceidwadwyr. Yn sicr, mi fyddai’n rhywbeth y byddem ni wedi gwneud oni bai eich bod chi wedi gwneud o’n blaenau ni. Mi godais i hyn yn uniongyrchol gyda’r prif arolygydd pan ddaethon nhw i roi tystiolaeth i ni, ac mi roedd ef hefyd yn poeni nad oes digon wedi cael ei wneud dros y blynyddoedd i fynd i’r afael â hyn. Wrth gwrs, mae modd gweithredu ar lefel ysgolion—mae angen gweithredu ar lefel ysgolion, ar lefel awdurdodau addysg a chonsortia, ac ar lefel genedlaethol i’w daclo. Mae yna sawl haen o weithgarwch sydd angen eu gweld i fynd i’r afael â hyn, ac mae’n ymwneud ag arweinyddiaeth, wrth gwrs, i fynd i’r afael ag ansawdd y dysgu a’r addysgu, ac mae’n ymwneud â gwella datblygiad staff hefyd. Yn yr ysgolion, yn sicr, mae angen gwneud mwy i greu’r diwylliant, i greu’r amodau lle mae athrawon yn gallu rhannu a thrafod eu hymarfer a’u harfer gyda’u cydweithwyr mewn ffordd agored er mwyn dysgu oddi wrth ei gilydd o fewn sefydliad, yn ogystal â rhwng sefydliadau gwahanol hefyd.
Yn fwy hirdymor, ar lefel genedlaethol, wrth gwrs, fel rŷm ni’n gweld, mae yna waith nawr yn digwydd i edrych ar wella ansawdd hyfforddiant cychwynnol i athrawon a gwella ansawdd yr arweinyddiaeth drwy’r academi ac yn y blaen. Felly, amrywiaeth rhwng ysgolion ac amrywiaeth o fewn ysgolion hefyd, a dyna oedd un o’r negeseuon gan y prif arolygydd—hynny yw, yr un yw’r broblem yn ei hanfod. Pan fydd Estyn yn dweud bod ysgol yn dda, beth maen nhw’n ei ddweud yw bod yr ysgol yn gyson yn dda. Ond, wrth gwrs, pan fydd ysgol efallai yn ddigonol, wel, nid yw’r cysondeb yna; mae yna bocedi o arfer da, ond i’r gwrthwyneb hefyd, a dyna le rŷm ni’n cael yr amrywioldeb, mewn gwirionedd.
Fe arolygwyd y consortia llynedd, wrth gwrs, ac fe ddywedodd Estyn bryd hynny nad oedd digon wedi ei wneud i fynd i’r afael ag amrywioldeb, yn enwedig ar lefel uwchradd. Mae’r neges yna, wrth gwrs, yn cael ei hategu yn yr adroddiad blynyddol. Mae yn nodwedd, wrth gwrs, o’r ysgolion gorau eu bod nhw’n creu rhwydweithiau eang, eu bod nhw’n rhagweithiol iawn yn mynd o gwmpas yn dysgu oddi wrth eraill, sydd hefyd, wrth gwrs, yn cael profiad positif o wneud hynny—mae’n gweithio’r ddwy ffordd. Nodwedd gyson o’r darparwyr salaf, wrth gwrs, yw eu bod nhw’n ynysig, yn edrych i fewn ar eu hunain, ac efallai nid allan ar eraill. Mae hynny yn rhywbeth y gallwn ni ei newid. Rydw i’n credu bod modd taclo hynny yn gymharol—wel, mae ‘hawdd’ efallai yn air rhy gryf, ond yn sicr un o’r materion fan hyn yw gallu rhyddhau staff i fod yn gallu gadael y dosbarth i fynd i rannu profiadau, ond mae gwerth hynny, rydw i’n meddwl, mor gryf nes ei fod yn rhywbeth y mae’n rhaid i ni bwysleisio mwy ohono.
Agwedd arall o amrywioldeb, wrth gwrs—ac mae hyn yn cyffwrdd, efallai, ar yr angen i ddiwallu anghenion pob dysgwr, fel sy’n cael ei amlinellu yn yr ail welliant—yw’r bwlch mewn perfformiad rhwng bechgyn a merched, a disgyblion o gefndiroedd difreintiedig a disgyblion eraill. Mae’r bwlch hwnnw yn dueddol o dyfu wrth iddyn nhw symud drwy eu gyfra ysgol, ac rydw i’n gwybod yn sicr o safbwynt difreintedd, ac rydw i’n siŵr hefyd o safbwynt bechgyn a merched, fod yr Ysgrifennydd Cabinet yn awyddus i fynd i’r afael â hyn. Ond, gan fod y bwlch yna’n dueddol o dyfu, wrth gwrs, beth mae hynny yn ei ddweud wrthym ni ynglŷn â’n llwyddiant ni i daclo yr amrywioldeb yma sydd o fewn y gyfundrefn? Efallai ei bod hi’n her i gymdeithas ehangach, ond mae yna rôl ganolog i ysgolion, a dyna, rydw i’n meddwl, ydy un o’r heriau yn symud ymlaen.
O safbwynt gwelliant Plaid Cymru, wrth gwrs, ni chafodd un o’r unedau cyfeirio disgyblion eu barnu yn rhagorol gan Estyn yn y flwyddyn dan sylw. Fe nodwyd gwendidau sylweddol o ran darpariaeth, arweinyddiaeth a rheolaeth ym mhob un o’r pedwar a gafodd eu harolygu. Mae perfformiad yr unedau wedi bod yn destun pryder, wrth gwrs, ers sawl blwyddyn. Mi godwyd eu perfformiad cymharol wael fel testun gwelliannau i’r dadleuon ar adroddiadau Estyn yn 2012-13 gan y Democratiaid Rhyddfrydol, eto yn 2013-14 gan y Ceidwadwyr, ac felly, am wn i, ein tro ni yw hi y tro yma, ysywaeth. Felly, wrth gwrs, mae hwn yn rhywbeth y dylid wedi gwneud mwy i fynd i’r afael ag e dros y blynyddoedd. Mae’r adroddiad diweddar, yn ogystal ag adroddiadau blynyddol, yn cynnwys yr adroddiadau thematig hefyd, wedi profi bod mawr angen gweithredu ar fyrder yn y maes yma.
Mae’r Ysgrifennydd Cabinet, wrth gwrs, wedi sôn am ei bwriad i wella profiad disgyblion yr unedau cyfeirio disgyblion yma, gan nodi y byddai’n defnyddio peth o’r adnoddau ychwanegol sydd ar gael iddi yn dilyn y gyllideb i’r perwyl yma. Rydw i hefyd yn cydnabod ei bod hi’n cydweithio â’r cyn-brif arolygydd i edrych ar y sefyllfa yma, ond mae’r broblem yn hen, hen hanes erbyn hyn. Mi oedd yna gyfeiriad yng Ngorffennaf y llynedd at gymeradwyo argymhellion y grŵp tasg a gorffen ar addysg heblaw yn yr ysgol, a bod hynny’n ffurfio rhan o’r fframwaith ar gyfer gweithredu sy’n dod i’r amlwg—yr ‘emerging framework for action’. Dyna’r cyfeiriad yn ôl ym mis Gorffennaf, ac nid wyf i wedi gallu ffeindio llawer mwy o fanylion ynglŷn â hynny, ac mi fyddwn i’n falch, wrth ymateb i’r ddadl, petai’r Ysgrifennydd Cabinet yn gallu rhoi gwell syniad inni o beth yw’r cynlluniau sydd ar waith, beth yw’r amserlenni a lle’n union yr ydym ni’n mynd ar y maes yma. Diolch.