Part of the debate – Senedd Cymru am 4:47 pm ar 7 Mawrth 2017.
Na wnaf. [Yn parhau]—cynghorau disgyblion, datrys gwrthdaro, gweithgareddau cymunedol a chodi arian i elusennau a phethau o’r fath, ond mae’n rhaid rhoi blaenoriaeth i godi safonau rhesymu, datrys problemau, a rhesymeg drwy bynciau traddodiadol.
Yn ail, rwyf eisiau siarad am gadw athrawon, ac effaith hyn ar y meysydd y mae Estyn yn eu monitro. Mae Estyn yn sôn am ddatblygu'r proffesiwn. Mae'n amlinellu datblygu'r diwylliant cywir, perthynas gefnogol, ymgysylltu â thystiolaeth ymchwil, defnyddio data a thechnoleg newydd, ac arweinyddiaeth. Mae’n pwysleisio bod sefydliadau elusennol na chawsant eu hethol—a dywedaf eto, na chawsant eu hethol—y trydydd sector megis y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil i Addysg, Ymddiriedolaeth Sutton, The Education Endowment Foundation, a’r Joseph Rowntree Foundation, yn chwarae rhyw ran mewn casglu tystiolaeth i effeithio ar y diweddariadau hyn. Ni ddylai’r pynciau hyn, ni waeth pa mor dda eu bwriad, guddio neu fod yn fwy o flaenoriaeth na chadw athrawon. Nid yw mor syml â chymryd unigolyn sydd newydd raddio a lawrlwytho’r diweddariadau a’r ymchwil diweddaraf, mwyaf gwleidyddol gywir i mewn iddynt. Mae addysgu yn rhywbeth sy'n datblygu gydag ymarfer a phrofiad. Mae athrawon profiadol yn ased hanfodol i ysgolion Cymru, ond mae ysgolion Cymru yn eu colli’n gyflym. Dywed StatsCymru wrthym bod ysgolion Cymru wedi colli 334 o athrawon â chwe blynedd neu fwy o brofiad yn y flwyddyn 2014-15 yn unig. Mae'r ystadegau yn cyflwyno ffigurau tebyg ar gyfer pob blwyddyn academaidd o 2007 i 2015. Pam nad yw athrawon profiadol yn cael eu cadw? A yw’n bosibl mai’r holl amser a dreulir ar ddiweddariadau, hyfforddiant, monitro data, a phethau o’r fath, yn hytrach nag addysgu ymarferol, wyneb yn wyneb, yw’r rheswm mewn gwirionedd pam y maen nhw’n cael eu dadrithio ac yn gadael? Mae UKIP yn pwysleisio bod athrawon yn cyflawni orau pan eu bod yn cael cymaint o brofiad â phosibl drwy addysgu wyneb yn wyneb. Rydym ni hefyd yn pwysleisio mai cadw’r athrawon hynny yw’r ffordd ymlaen.
Yn drydydd, hoffwn siarad am yr ysgolion yng Nghymru sydd wedi methu, yn benodol, disgyblion NEET—y rhai nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Mae Estyn yn dweud, ar ddiwedd 2015, bod ychydig dros 10 y cant o bobl 16 i 18 mlwydd oed yn y categori NEET—mae hyn yn 11,500 o bobl ifanc yng Nghymru. Mae’n adrodd yn 2015 bod 19 y cant o'r grŵp oedran 19 i 24 oed yn y categori NEET—sef 42,200 o bobl ifanc.
Nid pa un a yw’r ystadegau hyn yn rhyw fath o welliant ar flynyddoedd blaenorol ai peidio yw’r pwynt. Mae'r ffigurau hyn yn llawer, llawer, llawer rhy uchel. Maen nhw unwaith eto yn dystiolaeth bod y clymbleidiau blaengar sydd wedi rheoli addysg cyhyd yn siomi niferoedd mawr o bobl ifanc a theuluoedd yng Nghymru drwy beidio â rhoi'r sgiliau iddynt fyw bywyd cyflawn a chynhyrchiol.
I gloi, hoffwn i am y tro olaf fyfyrio ar bartïon clymblaid Cymru sy'n gyfrifol am addysg. Maen nhw’n hoffi disgrifio eu hunain fel blaengar neu’r chwith blaengar, ond nid yw ysgolion Cymru wedi symud ymlaen, o leiaf nid yn y meysydd yr wyf i wedi tynnu sylw atynt. Ni allaf ond dyfalu mai cyfrinair yw 'blaengar' ar gyfer dinistrio’r holl arfer gorau, rhesymeg a phrofiad blaenorol yn llwyr, a rhoi diweddariadau a hyfforddiant gwleidyddol gywir yn eu lle gan sefydliadau ac elusennau arbenigol trydydd sector na chawsant eu hethol. Diolch.