Part of the debate – Senedd Cymru am 4:51 pm ar 7 Mawrth 2017.
Hyd at ryw 10 mlynedd yn ôl, roeddwn i'n arfer cael fy nhalu i sefyll ar y stryd a stopio pobl a gofyn eu barn ar faterion y dydd. Byddai rhai pobl yn stopio, byddai rhai yn gweiddi sarhad. Yn wir, wrth feddwl am y peth, nid yw fy mywyd wedi newid cymaint â hynny o gwbl. Rwy'n eithaf ffyddiog, pe byddwn i’n gofyn barn pobl ar y stryd heddiw ac yn gofyn am beth yr oedden nhw’n pryderu fwyaf, yr adroddiad PISA neu'r adroddiad Estyn, y bydden nhw’n edrych yn syn arnaf. Nid yw'r rhan fwyaf o bobl yn poeni’n ormodol am y pethau hyn, ond mae ganddyn nhw farn ar eu hysgol leol, ac mae fel arfer yn farn gadarnhaol.
Wrth gwrs, i’r rhan fwyaf o bobl, mae ysgolion yn ymwneud â llawer mwy na data; maen nhw’n ganolbwynt ar gyfer eu cymunedau. Cyn dod yn Aelod Cynulliad, treuliais 10 mlynedd fel llywodraethwr ysgol gynradd, a saith ohonyn nhw fel cadeirydd gweithredol ysgol lwyddiannus, ysgol lle nad oedd y tîm arwain yn cymryd amddifadedd eu cymuned fel esgus dros berfformiad ond yn hytrach fel sbardun ar gyfer rhagoriaeth. Un o'r pethau a ddysgais oedd gwerth data wedi eu defnyddio'n briodol i gyfeirio dysgu ac addysgu er mwyn ceisio sicrhau bod pob plentyn yn cyflawni ei botensial.
Pe byddwn i’n cael fy stopio yn rhan o ymarfer gofyn barn y bobl, byddwn i’n dweud fy mod i’n pryderu llawer mwy am adroddiad Estyn nag yr wyf i am rancio PISA. Nid wyf i’n diystyru pwysigrwydd PISA; rwy'n credu ei fod yn iawn ein bod ni’n cymryd sylw ohono. Ond, yn fy marn i, mae adroddiad blynyddol y prif arolygydd ysgolion yn cynnwys casgliadau sy’n peri llawer mwy o bryder am berfformiad ein hysgolion o ddydd i ddydd. Y materion hyn sy'n penderfynu pa un a allwn ni greu system ysgolion llwyddiannus, sef, yn y pen draw, yr hyn y mae PISA yn ei fesur.
Rwyf eisiau canolbwyntio ar rai o’r pwyntiau o'r adroddiad am ysgolion sydd yn amlwg iawn i mi. Yn amlwg, mae gennym ni broblem o ran ansawdd yr addysgu. Mae Estyn yn ystyried bod addysgu yn un o'r agweddau gwannaf ar y system addysg. Dylem ni fod yn glir: mae addysgu o safon byd-eang yn digwydd yn ysgolion Cymru—safon byd-eang—ond mae llawer gormod o amrywiaeth; mae’r bwlch rhwng darparwyr sy’n gwneud yn dda a’r rhai nad ydynt yn gwneud yn dda yn dal i fod yn rhy fawr, meddai’r prif arolygydd ysgolion yn ei adroddiad blynyddol. Ac, fel y noda'r adroddiad, bydd diwygiadau cwricwlwm Donaldson yn mynnu rhagor gan ein hathrawon, yn enwedig ym maes dysgu digidol, maes y mae'r adroddiad yn dweud wrthym mai dim ond 'ychydig iawn o ysgolion' sy’n rhagori a bod llawer yn methu yn llwyr â rhoi’r sgiliau hyn i bobl ifanc, sy’n hanfodol ar gyfer y byd cyfoes.
Yn ogystal â mynd i'r afael â recriwtio a hyfforddiant cychwynnol i athrawon, fel y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, mae Estyn yn dadlau bod angen i ni fynd i'r afael â dysgu a datblygiad proffesiynol ar gyfer athrawon presennol, maes yr ydym wedi ei esgeuluso—a, byddwn i’n ychwanegu, nid dim ond ar gyfer athrawon. Mae bron iawn i hanner ein staff ysgol yn gweithio mewn swyddi cymorth. Maen nhw’n hollbwysig i lwyddiant ein system addysg, ond nid ydym yn eu gwerthfawrogi, nid ydym yn eu hyfforddi yn dda, ac nid ydym yn eu talu yn ddigon da.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet eisoes wedi dechrau gweithio ar wella arweinyddiaeth yn ein hysgolion, ac rwy’n cefnogi hynny'n fawr. Mae bod yn bennaeth yn swydd hynod heriol. Gallwch chi weld un gwych filltir i ffwrdd, ac rwy’n rhyfeddu atynt. Rwyf i bob amser yn rhyfeddu at yr amrywiaeth o sgiliau sydd eu hangen i fod yn bennaeth rhagorol, yn feistr ar bopeth o'r plymio i addysgeg. Mae’r goreuon, fel y canfu Estyn, yn gwybod cryfderau a gwendidau yr addysgu yn eu sefydliadau. Ond, ymhlith darparwyr lle ceir diffygion yn yr addysgu, dywed Estyn, nid oes syniad clir gan arweinyddion o’r hyn sydd angen ei wella, ac yn aml mae adroddiadau hunanwerthuso yn brin o fanylion ynglŷn â’r addysgu.’
Arweinyddiaeth yw'r allwedd i fynd i'r afael â'r diffygion hyn. Mae’n bryder mawr i mi bod 23 o ysgolion yn Sir Gaerfyrddin ar hyn o bryd, heb bennaeth parhaol. Rwyf i wedi fy nghalonogi bod saith o bob 10 ysgol gynradd a arolygwyd eleni yn dda neu'n well, sydd ychydig yn well na'r llynedd, ond mae’n peri pryder mawr mai dim ond pedair o bob deg o'n hysgolion uwchradd y bernir eu bod yn dda neu’n well—yr un fath â’r llynedd—a dim ond chwarter â rhywfaint o ragoriaeth, i lawr o 38 y cant y llynedd.
Nawr, yn yr un modd ag y dylem ni ddathlu rhagoriaeth, ni ddylem oddef cyffredinedd—mae pob un ohonom yn gwybod pan fyddwn yn gweld hynny, hefyd, ond nid yw'r system yn tynnu sylw ato. Nid yw llywodraethwyr yn herio’n ddigonol ac mae penaethiaid gweddol yn aml yn amgylchynu eu hunain â llywodraethwyr gweddol er mwyn sicrhau nad ydyn nhw’n cael eu herio. Nid yw awdurdodau addysg lleol yn gwneud digon i fynd i’r afael â phenaethiaid sy’n tanberfformio. Un o fy siomedigaethau o ran diweddu’r prosiect Her Ysgolion Cymru yw ei fod yn dod i ben cyn bod rhai o'r diffygion arweinyddiaeth yn cael eu datrys yn llawn yn ein hysgolion sy’n perfformio waethaf.
Roeddwn i’n bryderus iawn o glywed y prif arolygydd ysgolion yn dweud wrth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus rai misoedd yn ôl nad oedd yn bwriadu arolygu awdurdodau addysg lleol yn y cylch arolygu nesaf, ond y byddai, yn hytrach, yn canolbwyntio ar y consortia rhanbarthol. Yn amlwg, mae ganddynt rywfaint o waith egluro o ran yr amrywiaeth mewn perfformiad ar draws ysgolion, yn enwedig ysgolion uwchradd, ond byddwn i’n gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet fyfyrio ar ba un a allwn ni fforddio tynnu ein sylw oddi ar awdurdodau addysg lleol.
Does bosib nad gwers yr 20 mlynedd diwethaf o ddatganoli’r polisi addysg yw y gallwn ni arloesi ac y gallwn ni gyflawni rhagoriaeth, ond dim ond wrth fod yn gwbl onest â ni ein hunain am sut y mae'r system gyfan yn perfformio. Mae adroddiad blynyddol Estyn eleni yn amhrisiadwy i’n hatgoffa na allwn ni fforddio bod yn hunanfodlon. Diolch.