Part of the debate – Senedd Cymru am 4:56 pm ar 7 Mawrth 2017.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. A gaf i ddiolch i bawb am eu cyfraniadau i’r ddadl y prynhawn yma, sydd, ar y cyfan, wedi bod yn hynod o gadarnhaol a chefnogol ac sy’n ychwanegu at y ddadl ar sut y gallwn ni fwrw ymlaen â’n taith diwygio addysg? Os caf ddechrau trwy fynd i'r afael â rhai o'r materion yn ymwneud â'r gwelliannau sydd wedi'u cyflwyno heddiw, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cefnogi gwelliant 3 a gwelliant 4.
Gan ddechrau gyda gwelliant Plaid Cymru, rwy’n derbyn yn llwyr, Llyr, fod angen gwella o ran unedau cyfeirio disgyblion. Roeddwn i'n poeni amdanyn nhw pan oeddwn i’n eistedd draw yn y fan yna ac rwy’n parhau i boeni amdanyn nhw nawr fy mod i’n eistedd yn y fan yma, ac rwy'n hapus iawn i dderbyn y gwelliant hwnnw. Fel y dywedasoch, Llyr, ni nodwyd bod gan yr un o'r pedair uned a arolygwyd eleni arferion rhagorol, a gosodwyd pob un o’r pedair yn y categori statudol 'gwaith dilynol', ac nid yw hynny'n ddigon da. Mae'n rhaid i ni gael nod uwch ar gyfer y disgyblion sydd fwyaf agored i niwed hyn.
Un o gryfderau mwyaf ein system addysg heblaw yn yr ysgol—EOTAS—yw’r gallu i ddarparu cymorth pwrpasol ac unigryw i fodloni anghenion annodweddiadol ei dysgwyr heriol. Er ein bod yn cydnabod bod angen diwygio yn y sector, rwyf hefyd yn awyddus iawn i gynnal cymaint o hyblygrwydd ag y bo modd. Gwyddom fod arferion da yn bodoli mewn UCDau. Yr her yw prif ffrydio’r arferion da hynny fel bod yr holl bobl ifanc sy'n defnyddio'r ddarpariaeth yn cael safon uchel o addysg, gan eu galluogi i gyrraedd eu llawn botensial.
Fel y cyfeiriodd Llyr, Lywydd, sefydlodd Llywodraeth Cymru y grŵp gorchwyl a gorffen EOTAS yn 2015 gyda'r bwriad o ddatblygu mesurau ymarferol gyda'r nod o wella deilliannau ar gyfer dysgwyr sy'n defnyddio'r ddarpariaeth. Mae'r grŵp yn dal i fod wrthi’n cwblhau ei fframwaith ar gyfer gweithredu, yr wyf yn disgwyl iddo gael ei gyflwyno i mi ei ystyried yn ddiweddarach eleni, ac yna byddaf yn rhoi gwybod i'r Siambr sut yr ydym ni’n bwriadu gweithredu'r fframwaith ar gyfer gweithredu ac ysgogi newid yn y maes hwnnw.
Os caf droi at y gwelliant gan y Ceidwadwyr, byddwn ni hefyd yn cefnogi gwelliant y Ceidwadwyr ar arweinyddiaeth. Bydd y Siambr hon yn ymwybodol bod hybu a chefnogi arweinyddiaeth yn ganolog i’m hagenda ddiwygio. Fel yr amlinellwyd yn y lle cyntaf, byddwn yn gobeithio cael pobl i ymuno â’r system newydd cyn gynted â phosibl. Dylwn ddatgan yn glir nad yr academi ei hun fydd y darparwr gwasanaethau—hi fydd y brocer, gan gydgysylltu gwasanaethau, a sicrhau ansawdd yr amrywiaeth o raglenni arweinyddiaeth a fydd ar gael.
Er y byddwn ni’n cefnogi'r gwelliant, byddaf, wrth gwrs, yn ailadrodd bod pethau’n cymryd amser, ond mae angen i ni weithredu’n gyflymach. Er fy mod wedi nodi rhai o'r egwyddorion cyffredinol ar gyfer y sefydliad newydd, bydd gwaith pellach yn cael ei wneud gan y bwrdd cysgodol ar ddatblygiad yr egwyddorion sylfaenol cyffredinol. I ddechrau, bydd y bwrdd cysgodol yn ystyried arweinyddiaeth gan benaethiaid, sy'n cysylltu â’r pwynt a wnaed mor huawdl gan Lee Waters: mae'n rhaid i ni ganolbwyntio ar ansawdd yr arweinyddion sydd gennym yn ein hysgolion ar hyn o bryd, ond mae’n rhaid inni hefyd ystyried y rhan y gall yr academi ei chwarae wrth gefnogi darpar benaethiaid, y genhedlaeth nesaf o arweinyddion ein hysgolion.
Ond, yn y tymor hwy, rwyf eisiau i’r academi gynnwys datblygu arweinyddiaeth ar gyfer y sector addysg cyfan. Gwnaeth Darren Millar bwynt da iawn, iawn am arweinyddiaeth AB: unwaith eto, mae ansawdd AB yn disgleirio yn adroddiad yr arolygydd, a hoffwn longyfarch David Jones ar ei wobr ddiweddar. Mae'r rhaglen arweinyddiaeth AB wedi bod ar waith ers nifer o flynyddoedd. Mae gennym ni hefyd raglen arweinyddiaeth debyg ar waith ar gyfer AU—sydd wedi bod ar gael am nifer o flynyddoedd, ac yn amlwg mae yna wersi i ni eu dysgu oddi wrth y sector AB a'r sector AU wrth ddatblygu'r rhaglen arweinyddiaeth ar gyfer ein hysgolion. Mae'n drueni nad ydym wedi cael rhaglen debyg, ond mae'n rhaid i ni ddysgu o'r hyn sydd wedi gweithio mor dda o ran AB ac AU, a throsglwyddo’r syniadau hynny i gael yr effaith yr ydym yn dymuno ei chael. Felly, mae datblygu’r academi arweinyddiaeth yn gam pwysig ymlaen, ochr yn ochr â'n safonau proffesiynol newydd ar gyfer athrawon a'n gwaith diwygio i addysg gychwynnol athrawon wrth ddatblygu a mynd i'r afael â'r materion sy'n ymwneud â safonau addysgu anghyson sydd wedi’u hamlygu yma.
Y pwyntiau eraill a wnaethpwyd, Darren—rwy’n falch eich bod yn cydnabod amrywiaeth a chwmpas gwaith Estyn; nid yw’n ymwneud ag ysgolion yn unig. Rwy'n pryderu llai ynghylch pwy sy'n gosod y safonau addysgu nag yr ydw i am eu deilliannau. Rwy'n siŵr y bydd y ddau ohonom ni’n hapus iawn os byddwn ni’n gweld gwelliant mewn ansawdd yn yr adroddiadau blynyddol ar addysgu yn y dyfodol, o ganlyniad i'r safonau addysgu newydd.
Rydym yn gweithio ar fersiwn newydd o 'Cymwys am Oes', a fydd yn cynnwys yr eglurder o ran ein cenhadaeth genedlaethol o wella addysg, fel yr awgrymwyd gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, ac rydym yn archwilio amrywiaeth o ffyrdd newydd i ddenu pobl sydd wedi treulio rhan o’u gyrfa mewn proffesiwn gwahanol, i ddod i'r proffesiwn addysgu, oherwydd y gallent ddod â chyfoeth o brofiad yn eu sgil. Mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn edrych ar bobl sydd wedi gweithio yn y diwydiant, yn y gwyddorau, a dod â nhw i’n hysgolion. [Torri ar draws.] Yn sicr.