Part of the debate – Senedd Cymru am 5:01 pm ar 7 Mawrth 2017.
Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am dderbyn yr ymyriad. A ydych chi’n cytuno â mi felly, bod yn rhaid i ni hefyd ystyried y system bwrsariaethau, er mwyn defnyddio hynny efallai i ddenu pobl, yn enwedig yn y meysydd hynny y cyfeiriasoch chi atyn nhw lle y ceir prinder?