– Senedd Cymru am 6:11 pm ar 7 Mawrth 2017.
Symudwn i’r cyfnod pleidleisio, felly, ac mae'r bleidlais gyntaf ar yr ail gyllideb atodol a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 27, dim ymatal, 26 yn erbyn. Felly, caiff y cynnig ei dderbyn.
Trown yn awr at bleidlais ar adroddiad blynyddol Estyn a galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 26, dim ymatal, 27 yn erbyn. Felly, ni chaiff gwelliant 1 ei dderbyn.
Symudwn at bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 26, dim ymatal, 27 yn erbyn. Felly, ni chaiff y gwelliant ei dderbyn.
Symudwn yn awr at bleidlais ar welliant 3, yn enw Paul Davies. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. Roedd 53 o blaid, dim ymatal, dim un yn erbyn. Felly, derbynnir gwelliant 3.
Galwaf am bleidlais ar welliant 4, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 53, dim ymatal, dim un yn erbyn. Felly, derbynnir gwelliant 4.
Felly, galwaf am bleidlais ar y cynnig, fel y'i diwygiwyd, yn enw Jane Hutt.
Cynnig NDM6246 fel y’i diwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2015-16.
2. Yn nodi mai arweinyddiaeth yw'r ffactor mwyaf sy'n effeithio ar wella ysgolion ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno gwybodaeth fanylach ynghylch sefydlu Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol, gan gynnwys ei chyllid, targedau, a sut y bydd arweinwyr yn gallu cael gafael ar ei chymorth.
3. Yn gresynu at berfformiad cymharol wael yr unedau cyfeirio disgyblion a arolygwyd yn 2015-16, pan na nodwyd bod yr un ohonynt yn dangos arferion ardderchog, a gosodwyd y pedair mewn categori statudol camau dilynol, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â gwendidau mewn darpariaeth, arweinyddiaeth a rheoli fel mater o frys.
Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 53, dim ymatal, dim un yn erbyn. Felly, caiff y cynnig ei dderbyn.
Symudwn i bleidlais ar welliant 4 ar y ddadl Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Galwaf am bleidlais ar welliant 4, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 20, dim ymatal, yn erbyn y cynnig 33. Felly, ni chaiff gwelliant 4 ei dderbyn.
Felly, galwaf am bleidlais ar y cynnig wedi'i ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt.
Cynnig NDM6247 as amended:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2017 ac yn cydnabod swyddogaeth, cyfraniad a llwyddiannau menywod ym mywyd economaidd, gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol Cymru.
2. Yn nodi bod menywod yn dal i gael eu tan-gynrychioli mewn swyddi arweinyddiaeth ac yn gresynu mai dim ond pedwar y cant o Brif Weithredwyr y 100 prif fusnes yng Nghymru a 31 y cant o aelodau byrddau prif gyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru sy'n fenywod.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i gyrraedd y trothwy cydbwysedd rhwng y rhywiau, bod 40 y cant o fyrddau cyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru yn fenywod, a chynyddu nifer y menywod sy'n gadeiryddion ac sydd ar banelau cynghori cyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru.
4. Yn gresynu bod y bwlch cyflog canolrifol yr awr rhwng dynion a menywod yng Nghymru yn 2015 yn 14.6 y cant.
5. Yn gresynu bod 29 y cant o fenywod a oedd yn gweithio yng Nghymru wedi ennill llai na'r cyflog byw, o'i gymharu â 20.5 y cant o ddynion, ar sail cyflog byw o £8.25 yr awr ym mis Ebrill 2016.
Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 52, un yn ymatal, dim un yn erbyn. Felly, caiff y cynnig fel y'i diwygiwyd ei dderbyn.
Daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch.