<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 8 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 1:42, 8 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Gobeithiaf y bydd y trafodaethau hynny’n arwain at feddwl mwy cydgysylltiedig mewn perthynas â’r Bil hwnnw, ac wrth gwrs, bydd y Cynulliad cyfan yn cael y cyfle i’w ddiwygio, os oes angen. Ond a gaf fi ddychwelyd hefyd at orsaf bŵer Aberddawan, oherwydd y tro diwethaf i mi eich holi chi a’r Prif Weinidog ynglŷn â hyn, dywedwyd wrthyf fod Cyfoeth Naturiol Cymru bellach wedi cysylltu â pherchnogion Aberddawan ac wedi gofyn iddynt gyflwyno cynnig erbyn hyn, rwy’n meddwl, ynglŷn â sut y byddent yn lleihau’r allyriadau y barnodd Llys Cyfiawnder Ewrop eu bod yn anghyfreithlon. A allwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cynulliad ynglŷn â’r sefyllfa yn Aberddawan, ac a ydych bellach yn fodlon fod rhaglen ar waith i leihau’r allyriadau niweidiol hynny?