Mercher, 8 Mawrth 2017
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am berfformiad o’i gymharu â thargedau ailgylchu gwastraff trefol ledled Cymru? OAQ(5)0115(ERA)
2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau cyflenwad digonol o bren o Gymru ar gyfer y diwydiant gweithgynhyrchu yng Nghymru? OAQ(5)0106(ERA)
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Simon Thomas.
3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella mynediad at gefn gwlad Cymru? OAQ(5)0113(ERA)
4. I ba raddau y mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried addasu ei chynllun datblygu gwledig yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd? OAQ(5)0112(ERA)
5. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo twristiaeth bwyd ledled Cymru? OAQ(5)0104(ERA)
6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am barciau cyhoeddus? OAQ(5)0108(ERA)
7. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella mynediad i gefn gwlad ar gyfer hamdden yng Nghymru? OAQ(5)0103(ERA)
8. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer targedau ynni o brosiectau cynhyrchu ynni sy’n eiddo i’r gymuned yng...
9. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r sector ynni adnewyddadwy yng Nghymru? OAQ(5)0109(ERA)
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae’n bwriadu cefnogi dioddefwyr trais domestig? OAQ(5)0117(CC)
2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynigion Llywodraeth Cymru ynghylch ffioedd asiantau gosod? OAQ(5)0113(CC)
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Mark Isherwood.
3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynnydd o ran gweithredu’r cynllun cynhwysiant ariannol? OAQ(5)0123(CC)
4. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i wneud o effaith cyhoeddiadau polisi diweddar Llywodraeth y DU ar Gymru o ran diwygio lles? OAQ(5)0116(CC)
5. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella cefnogaeth ar gyfer cymunedau i leihau tlodi plant yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ(5)0108(CC)
6. Sut mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo diogelwch rhag tân yng Nghymru? OAQ(5)0111(CC)
7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddyfodol prosiectau cymorth cymunedol yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0120(CC)
8. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am ariannu cynlluniau o dan y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol ar gyfer 2017/18? OAQ(5)0109(CC)[W]
9. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu blaenoriaethau adfywio Llywodraeth Cymru ar gyfer Sir Benfro? OAQ(5)0110(CC)
10. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu’r mesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i’r afael ag aflonyddu ar fenywod yng Nghymru? OAQ(5)015(CC)
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiadau 90 eiliad. Julie Morgan.
Yr eitem nesaf yw’r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 23 mewn perthynas â deisebau’r cyhoedd. Rydw i’n galw ar aelod o’r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig—Paul...
Yr eitem nesaf, felly, yw’r ddadl gan Aelodau unigol o dan Reol Sefydlog 11.21 ar yr economi sylfaenol. Rydw i’n galw ar Lee Waters i wneud y cynnig.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 2 a 4 yn enw Rhun ap Iorwerth, a gwelliant 3 yn enw Jane Hutt.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliant 2 yn enw Paul Davies.
Dyma ni’n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac oni bai fod tri Aelod yn dymuno imi ganu’r gloch, rwy’n symud yn syth i’r bleidlais. Ac mae’r bleidlais gyntaf ar ddadl y...
Os gwnaiff pawb adael y Siambr yn dawel, mae’r trafodion yn parhau. Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r ddadl fer. Rwy’n galw ar Neil McEvoy i siarad ar y pwnc a ddewiswyd...
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i brosiectau amgylcheddol?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau mynediad cyfartal i gyrsiau rhianta cadarnhaol yng Nghymru?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia