<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 8 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:43, 8 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Credaf ein bod wedi gweld cynnydd mewn perthynas â’r sector llaeth yn dilyn yr adolygiad hwnnw a gynhaliwyd gan fy rhagflaenydd, fel y dywedwch. Un o’r argymhellion a ddaeth o’r adolygiad oedd y dylem gael hyrwyddwr llaeth. Rwy’n awyddus iawn i fwrw ymlaen â hyn, ac ar hyn o bryd, rydym yn ceisio dod o hyd i’r unigolyn mwyaf addas a phriodol i wneud hynny.