<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 8 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 1:44, 8 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Yn amlwg, byddwn yn annog Ysgrifennydd y Cabinet i roi hyn ar yr agenda, o ystyried ei fod yn un o’r argymhellion yn yr adolygiad penodol hwn. Roedd yr adolygiad annibynnol hefyd yn llygad ei le yn cydnabod bod rhai ffermwyr yn y sector llaeth yn wynebu problemau sylweddol o ran llif arian, er fy mod yn siŵr fod hynny hefyd yn broblem i ffermwyr llaeth ledled y DU. Yn wir, nid yw’r costau mewnbwn uchel i ffermwyr llaeth yn helpu, ac ychydig iawn o gymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i sicrhau cyllid ar gyfer gwelliannau cyfalaf. A wnewch chi, felly, ymrwymo i werthuso’r costau sydd ynghlwm wrth ffermio llaeth yng Nghymru, ac i edrych ar ffyrdd y gall Llywodraeth Cymru gefnogi ffermwyr llaeth drwy gymorth buddsoddi cyfalaf ychwanegol i helpu i wella effeithlonrwydd, ac felly dichonoldeb y sector ar gyfer y dyfodol?