<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 8 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:45, 8 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Yn ôl pob tebyg bydd Brexit yn cael mwy o effaith ar amaethyddiaeth nag ar y rhan fwyaf o’r sectorau eraill, yn amlwg oherwydd ei fod yn cael ei reoleiddio o dan y polisi amaethyddol cyffredin ac yn cael ei ariannu i raddau helaeth drwy’r Undeb Ewropeaidd. Mae’n rhaid i’r Llywodraeth, felly, feddwl yn ofalus iawn am yr hyn fydd ein cyfundrefn amaethyddol ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd.

Rwyf wedi bod yn darllen cofnodion y grŵp cynghori ar Ewrop a sefydlwyd gan y Prif Weinidog chwe mis yn ôl i weld beth y maent yn ei feddwl, a chefais fy synnu wrth weld nad yw amaethyddiaeth wedi codi o gwbl yn eu trafodaethau hyd yn hyn. Efallai fod hynny’n gysylltiedig â’r ffaith mai un aelod yn unig o’r rhai a benodwyd sydd ag unrhyw gymwysterau amaethyddol amlwg. Felly, tybed a yw hyn yn dangos nad oes gan Lywodraeth Cymru lawer o ddiddordeb, efallai, yn nyfodol amaethyddiaeth yn ein gwlad.