Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 8 Mawrth 2017.
Wel, bydd yn rhaid inni ei adolygu, oherwydd, yn amlwg, pan fydd yr holl bwerau o’r UE yn dychwelyd i Gymru, bydd gennym gyfle wedyn i sicrhau ein polisi amaethyddol ein hunain yng Nghymru. Yn amlwg, mae rheoliadau—os gofynnwch i nifer o ffermwyr a bleidleisiodd dros ‘adael’ pam eu bod wedi pleidleisio dros ‘adael’, mae rheoleiddio’n cael ei grybwyll fel un o’r rhesymau. Ni chredaf ei fod wedi helpu fod Gweinidogion Torïaidd y DU—neu rai o Weinidogion Torïaidd y DU—wedi dweud y byddem yn lleihau ein rheoliadau, yn enwedig ein rheoliadau amgylcheddol. Nid yw hynny’n mynd i ddigwydd, ac rwyf wedi gwneud hynny’n gwbl glir—os rhywbeth, byddwn yn eu cryfhau.
Ond credaf ei fod yn gyfle da iawn i edrych ar reoleiddio, gan siarad mewn partneriaeth â’r sector, er mwyn sicrhau bod y rheoleiddio hwnnw’n gywir. Unwaith eto, mae hynny’n rhywbeth yr ydym yn ei drafod yn ein digwyddiadau i randdeiliaid.