Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 8 Mawrth 2017.
Credaf fod popeth ar yr agenda, i fod yn berffaith onest â chi. Rydym yn boddi o dan lawer iawn o reoliadau a deddfwriaeth mewn perthynas ag amaethyddiaeth a physgodfeydd yn unig. Yn fy mhortffolio i, mae 5,000 o ddarnau o ddeddfwriaeth a rheoliadau. Felly, wyddoch chi, credaf ein bod—. Rwyf wedi dweud fy mod yn awyddus iawn i weithio’n agos iawn gyda’r sector i sicrhau bod y polisi gorau posibl gennym. Ond rydym wedi’i dweud yn glir iawn wrth Lywodraeth y DU, dro ar ôl tro, pan ddaw’r pwerau hynny o’r UE, mai ein pwerau ni fyddant—nid eu rhai hwy i’w cymryd yn ôl. Ein pwerau ni fyddant o’r cychwyn cyntaf a byddwn yn sicrhau bod ein polisi’n addas at y diben.