Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 8 Mawrth 2017.
Diolch am yr ateb cadarnhaol, Weinidog. Roedd adroddiad gan Asiantaeth yr Amgylchedd yn 2007 yn amlygu pwysigrwydd pysgota i economi Cymru. Amcangyfrifwyd fod pysgodfeydd mewndirol Cymru yn cynhyrchu £75 miliwn o wariant gan bysgotwyr, gyda llawer ohonynt yn ymwelwyr â Chymru o dramor. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno y gallai cynyddu mynediad cyfrifol a chynaliadwy at ddyfroedd mewndirol Cymru, ynghyd ag ymgyrch i hyrwyddo Cymru fel lleoliad ar gyfer pysgota, ddod â manteision enfawr i economi Cymru yn y dyfodol agos?