Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 8 Mawrth 2017.
Cytunaf yn llwyr â chi fod marchogaeth yn rhywbeth y gall pobl anabl gymryd rhan ynddo. Ni allaf feddwl am unrhyw fentrau penodol sydd gennym nac unrhyw beth ar fy nesg gan unrhyw un sy’n gofyn am gymorth yn y ffordd honno, ond byddwn yn hapus iawn i’w ystyried pe bai hynny’n digwydd.