<p>Trais Domestig</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 8 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 2:15, 8 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn, a Lywydd, os caf, hoffwn ddymuno Diwrnod Rhyngwladol y Menywod hapus iawn i chi ac i fenywod a merched ledled Cymru.

Mae ein strategaeth genedlaethol yn nodi’r camau yr ydym yn eu cymryd i gefnogi dioddefwyr trais domestig drwy gyflwyno, datblygu a gweithredu’r fframwaith. Ers i Ddeddf Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 gael ei phasio, rydym wedi penodi cynghorydd cenedlaethol, wedi cyhoeddi’r fframwaith cenedlaethol ar hyfforddiant, ac wedi treialu ‘Gofyn a Gweithredu’.