Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 8 Mawrth 2017.
Brynhawn ddoe, fe wnaethoch chi wrthod cefnogi gwelliant gan Blaid Cymru a fyddai wedi’i gwneud hi’n orfodol i gyflwyno addysg perthnasoedd iach yn ysgolion Cymru. Buaswn i’n hoffi deall pam y gwnaethoch chi wrthod cefnogi hynny. Sut ydym ni’n mynd i leihau trais yn erbyn merched mewn ffordd barhaol os nad ydy ein plant ni a’n pobl ifanc ni’n cael cyfle i drafod materion allweddol o gwmpas sicrhau perthnasoedd iach? Ac, os nad ydy o’n orfodol yn yr ysgolion, nid oes sicrwydd y bydd o’n digwydd ac yn digwydd gyda chysondeb ar draws Cymru.