Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 8 Mawrth 2017.
A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ymateb hwnnw? Rwyf fi, ynghyd â sawl chyd-Aelod, a Jenny Rathbone yn fwyaf nodedig, wedi bod yn gwrthwynebu codi tâl ar denantiaid am ffioedd gosod ers nifer o flynyddoedd. Ar hyn o bryd, mae camau’n cael eu cymryd yn Lloegr ac wedi cael eu cymryd yn yr Alban. A all Ysgrifennydd y Cabinet roi syniad o’r amserlen ar gyfer rhoi camau ar waith?