<p>Ffioedd Asiantau Gosod</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 8 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 2:23, 8 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, mae Cymru wedi bod yn arloeswr mewn cymaint o faterion, felly mae’n fwy siomedig byth ein bod yn llusgo’n bell ar ôl gweddill Prydain ar fater diddymu ffioedd asiantau gosod. Mae ffioedd asiantaethau gosod yn ei gwneud bron yn amhosibl i lawer o deuluoedd fynd i mewn i’r sector rhentu preifat ac yn cynyddu’r galw am dai cymdeithasol. Ysgrifennydd y Cabinet, nid oes unrhyw dystiolaeth o fath yn y byd y bydd diddymu ffioedd yn arwain at godi rhenti, felly pa bryd fydd eich Llywodraeth yn dilyn gweddill Prydain ac yn diddymu’r ffioedd cosbol hyn?