Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 8 Mawrth 2017.
Hoffwn ychwanegu fy llais ar bwysigrwydd y mater hwn. Nid yn unig y gofynnir i fyfyrwyr dalu £150 i gael yr eiddo wedi’i dynnu oddi ar y farchnad tra’u bod yn datrys y contract tenantiaeth, a allai beidio â digwydd o gwbl, ond mae pobl sengl ar fudd-daliadau tai, pobl sy’n rhan o’r rhaglen Cefnogi Pobl ar lwfans cyflogaeth a chymorth, yn gorfod talu’r ffioedd hyn o’r arian y maent i fod i’w ddefnyddio ar fwyd, am na allant gael budd-dal tai i dalu’r ffioedd hyn. Felly, mae hwn yn fater gwirioneddol bwysig, ac rwy’n gobeithio y gallaf eich argyhoeddi bod angen i ni fwrw ymlaen â’r mater.