Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 8 Mawrth 2017.
Diolch yn fawr am eich ateb. Fel rhan o’ch strategaeth cynhwysiant ariannol, mae gofyn i undebau credyd ddarparu gwasanaethau allgymorth ac addysg, megis clybiau cynilo mewn ysgolion. Ond pan gyflwynais y Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru), un o’r pethau allweddol a nodwyd gennym ar ôl ymgynghori oedd argaeledd y gwasanaethau hyn ledled Cymru. Byddai rhai ysgolion yn gwneud gwaith rhyfeddol arno, ac ysgol gerllaw yn gwneud dim o gwbl. Beth y gallwch sicrhau y bydd yn cael ei wneud i weithio gydag undebau credyd, fel nad ydynt yn cael trafferth i ddarparu’r gwasanaethau hyn, pan allai cyllid fod wedi’i leihau iddynt o bosibl? Mae angen i ni sicrhau y gall sefydliadau sy’n mynd i ysgolion wneud hynny ym mhob man, yn hytrach na chael arbenigedd mewn un ysgol ac nid yn y llall.