Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 8 Mawrth 2017.
Mae’r cynllun cynhwysiant ariannol yn datgan mai ei weledigaeth yw Cymru lle y gall pawb, ymhlith pethau eraill, gael mynediad hwylus at eu harian eu hunain, boed drwy ddulliau awtomataidd neu dros y cownter.
Dyna ddyfyniad ohono. Yfory, byddaf wedi llwyddo o’r diwedd i gael cyfarfod gyda phenaethiaid HSBC ym Maesteg, lle y maent yn bwriadu cau eu cangen yno. Rwy’n sylweddoli na allwch roi sylwadau ar achosion unigol posibl o gau, ond rwyf am allu dweud wrthynt pa bwysau y gallwch ei roi arnynt, fel eu bod yn cymryd sylw o’ch cynllun cynhwysiant ariannol, yn enwedig mewn ardaloedd lle y mae effaith gronnus cau yn effeithio’n anghymesur ar gymunedau unigol, nad oes ganddynt gysylltiad da â’r band eang hyd yn oed, o bosibl.