Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 8 Mawrth 2017.
Mae ein blaenoriaethau ar gyfer trechu tlodi plant yn cynnwys gwella canlyniadau yn y blynyddoedd cynnar, adeiladu economi gref, cynyddu cyflogadwyedd a chynorthwyo rhieni i gael gwaith. Bydd cymunedau sydd wedi’u grymuso ac sy’n cymryd rhan yn chwarae rhan hanfodol yn y broses o sicrhau bod plant yn ne-ddwyrain Cymru, a thrwy weddill Cymru, yn cael y dechrau gorau mewn bywyd.