<p>Diogelwch Rhag Tân</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 8 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 2:46, 8 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch. Wrth ymateb i’ch datganiad ar 7 Chwefror ar gymunedau mwy diogel, cyfeiriais at adroddiadau yn y wasg y diwrnod cynt am gynnydd o 11 y cant yn nifer y tanau bwriadol yng Nghymru yn y flwyddyn flaenorol a oedd wedi dargyfeirio o alwadau 999 eraill a dargyfeirio criwiau tân i ffwrdd oddi wrth eu blaenoriaethau eraill. Ddeng diwrnod yn ddiweddarach, roedd sylw yn y wasg i ffigurau Llywodraeth Cymru yn sôn am drydydd cynnydd yn nifer y tanau glaswellt a gynheuwyd yn fwriadol yng Nghymru y llynedd, gydag oddeutu 2,604 o danau glaswellt wedi’u cynnau’n fwriadol. Pan ymateboch i fy nghwestiwn ar 7 Chwefror, fe ddywedoch fod y Gweinidog blaenorol wedi cael cyfarfod ar y cyd ag awdurdodau lleol, awdurdodau tân a’r heddlu, ond o ystyried y lefelau cynyddol hyn yn awr o dan eich gwyliadwraeth chi, pa gamau a roddwyd ar waith gennych neu y byddwch yn eu cymryd gyda’r awdurdodau perthnasol?