<p>Diogelwch Rhag Tân</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 8 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 2:47, 8 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Yn amlwg, mae cynnau tanau bwriadol yn drosedd ddifrifol iawn. Hoffwn dalu teyrnged i’r gwasanaethau tân a ymatebodd mor sydyn mewn ymosodiad tân bwriadol ar gerbyd yn Llanedern ar 15 Ionawr, oherwydd heb hynny, byddai bywydau wedi’u colli. Ond rwyf hefyd eisiau talu teyrnged i wasanaethau ieuenctid Caerdydd a’u gwaith gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru i sicrhau bod pobl ifanc sy’n cynnau tanau’n fwriadol yn wirioneddol ymwybodol o’r peryglon posibl. Nid ydynt yn targedu neb yn benodol; maent yn ei weld fel adloniant. Felly, mae prosiect Phoenix, y cynllun diffoddwyr tân ifanc a’r cynllun ymyrraeth cynnau tanau i’w gweld i mi yn dri pheth sy’n help mawr i bobl ifanc ddeall bod llosgi unrhyw beth yn weithgaredd peryglus iawn, ac yn rhywbeth i’w osgoi’n gyfan gwbl.