Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 8 Mawrth 2017.
Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu cyllid craidd ar gyfer cynghorau gwirfoddol sirol ledled Cymru, gan gynnwys Cynghorau Gwirfoddol Sirol yng Nghonwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn a Wrecsam. Yn ogystal, bydd prosiectau cymorth cymunedol yn elwa ar gyfnod pontio Cymunedau yn Gyntaf, cyllido etifeddol a’r grant cyflogaeth.