<p>Y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 8 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 2:53, 8 Mawrth 2017

Yr wythnos nesaf, mi fydd hi’n 11 mis ers i Ganolfan y Fron gyflwyno cais am grant o’r rhaglen yma. Mae oedi gan y Llywodraeth yn rhoi dyfodol y prosiect cyfan mewn perygl. Mae hi hefyd bron i naw mis ers i GISDA— elusen pobl ifanc bregus—anfon eu cais nhw ac maen nhw hefyd yn disgwyl i glywed a oedd eu cais yn llwyddiannus. Roedd y Llywodraeth wedi addo y buasen nhw wedi derbyn ymateb erbyn mis Hydref. Rwyf i wedi ysgrifennu atoch chi nifer o weithiau dros y misoedd diwethaf ynglŷn â hyn. Yn eich ymateb i un o fy llythyrau, bedwar mis yn ôl, fe soniwyd fod penderfyniad ar fin ei gyrraedd. Nid oes dal dim ateb. Mae’r ddau fudiad yma yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau nifer o bobl yn fy etholaeth i, ond maen nhw’n cael eu dal yn ôl yn sylweddol oherwydd diffyg gwybodaeth gan y Llywodraeth. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi gwybod i ni heddiw yr union ddyddiad y caiff GISDA a Chanolfan y Fron wybod os yw eu ceisiadau nhw wedi bod yn llwyddiannus?