<p>Blaenoriaethau Adfywio ar gyfer Sir Benfro</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 8 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 2:56, 8 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Wrth gwrs, ac rwy’n credu bod cyfleoedd yno i weithio mewn partneriaeth. O dan y fframwaith Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid, rydym yn cefnogi Cyngor Sir Penfro gyda chynllun benthyciadau canol y dref gwerth £2.25 miliwn, sef grant benthyciad ailgylchadwy 15 mlynedd. Bydd hyn, gobeithio, yn lleihau nifer y safleoedd ac adeiladu gwag a segur yng nghanol trefi fel Penfro, Aberdaugleddau a Hwlffordd. Felly, rydym eisoes yn rhoi camau sylweddol ar waith gyda’r awdurdod, o ran cynnig newydd ar gyfer yr ardal y mae’r Aelod yn ei chynrychioli.