Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 8 Mawrth 2017.
Nid wyf yn gwybod pa bryd y bydd yr Aelod yn ymweld â’r safle, ond gallaf geisio gofyn i un o fy swyddogion ymuno ag ef er mwyn cael sgwrs gyda phobl ifanc a Sipsiwn a Theithwyr ar y safle i weld pa gamau y maent eisiau eu gweld yn digwydd. Rwy’n credu bod gennym strategaeth Sipsiwn a Theithwyr gadarnhaol iawn, ac mae gennyf dîm o swyddogion sy’n gweithio’n agos iawn gyda theuluoedd Sipsiwn a Theithwyr. Mae lefelau cyrhaeddiad addysgol teuluoedd Sipsiwn a Theithwyr a’u plant yn ffactor pwysig sy’n cael ei ystyried gennym. Byddwn yn hapus i ofyn i un o fy nhîm ddod gyda chi i ymweld â’r safle.