Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 8 Mawrth 2017.
Diolch i chi am yr ymateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Mynegwyd pryderon wrthyf ynglŷn â sut yr ymdrinnir ag achosion o aflonyddu—gyda’r sensitifrwydd a’r difrifoldeb angenrheidiol a phriodol—gan y rhai sy’n gweithio mewn gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen. Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch roi sicrwydd ynghylch y gwaith sy’n cael ei wneud i atal aflonyddu gyda’r bobl mewn gwasanaethau cyhoeddus datganoledig rheng flaen? Hefyd, pa waith sy’n cael ei wneud gyda gwasanaethau cyhoeddus heb eu datganoli, megis yr heddlu, i sicrhau y caiff achosion o aflonyddu eu trin yn gywir?