Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 8 Mawrth 2017.
Yn ôl at ddigwyddiad Mothers Affection Matters yn gynharach heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet, a gwrando ar rai o’r bobl a roddodd eu straeon; roeddent yn sôn am aflonyddu yn troi’n gam-drin o oed cynnar iawn. Hoffwn atgyfnerthu’r galwadau a wnaed gan Sian Gwenllian, ac eraill ddoe rwy’n meddwl, am hyfforddiant a chwnsela a datblygu perthynas iach mewn ysgolion. Os gallwn hyfforddi plant ifanc, merched a bechgyn ifanc, dynion a menywod ifanc i barchu a thrysori ei gilydd, yna byddwn wedi mynd gryn ffordd i atal aflonyddu a cham-drin menywod a dynion yn eu bywydau fel oedolion.