6. 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Iechyd Plant

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:07 pm ar 8 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative 4:07, 8 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch o ddod â’r ddadl hon i’r Cynulliad heddiw ar ran grŵp y Ceidwadwyr Cymreig. Rwyf wedi rhoi llawer o ystyriaeth i’r drafodaeth y gobeithiaf y gallwn ei datblygu heddiw. Fel mam i ddau o blant ifanc, mae mater iechyd a lles plant yn amlwg yn hynod o agos at fy nghalon ac yn rhywbeth rwy’n teimlo’n angerddol yn ei gylch. Rwyf mor ymwybodol fod gormod o’n plant yn cael trafferth gwirioneddol i sicrhau cydbwysedd da o ran eu hiechyd a’u lles. Ac oherwydd bod y ffactorau sy’n dylanwadu ar iechyd plant a phobl ifanc a lles yn torri ar draws nifer o bortffolios, rwy’n sylweddoli efallai y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn teimlo bod peth o’r ddadl hon yn crwydro oddi wrth ei bortffolio, ond nid wyf yn ymddiheuro am lynu at y rhagosodiad fod pob plentyn yn haeddu’r dechrau gorau mewn bywyd.

Byddem i gyd yn dymuno am y gorau i blant a phobl ifanc Cymru, ond rwy’n awyddus i ni gydnabod pwysigrwydd egluro a gosod gweledigaeth hirdymor ar gyfer iechyd plant sy’n hyrwyddo iechyd a lles o enedigaeth, gan fod plentyn iach a gwydn yn emosiynol yn fwy tebygol o lywio dyfroedd cythryblus y glasoed; byddant yn fwy parod i ddysgu a gwneud y gorau o’u cyfleoedd mewn bywyd; yn fwy tebygol o fod wedi datblygu arferion ffordd o fyw iach; yn gallu goroesi’r cyfan y bydd bywyd yn ei luchio atynt yn well; ac yn gallu ymdopi nid yn unig â llawenydd bywyd, ond â chythrwfl siom a thristwch hefyd. Rwyf am weithio gyda’r pleidiau eraill ac Ysgrifennydd y Cabinet i gyflawni hyn. Hyderaf na fydd ysbryd ein dadl heddiw yn cael ei ystyried yn wrthdrawiadol ond yn hytrach fel trafodaeth aeddfed sy’n cyflwyno syniadau ac awgrymiadau ar gyfer cyrraedd nod y byddai pob un ohonom yn y Siambr hon am ei gefnogi.

Felly, gadewch i ni ddechrau drwy edrych ar rai ffeithiau. Yng Nghymru, 4 y cant yn unig o gyllideb y GIG sy’n cael ei dargedu at anghenion iechyd menywod a phlant yn unig. Gyda Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn cael ei ddathlu ledled y byd, yn sicr mae angen i hyn newid ac mae angen i ni weld mwy o ganran o gyllideb y GIG yn canolbwyntio ar fenywod a phlant, oherwydd nid yw anghydraddoldebau iechyd yn digwydd drwy hap a damwain—cânt eu pennu gan ble rydym yn byw, iechyd ein rhieni, ein hincwm ac addysg. Ac er na all plant effeithio ar yr amgylchiadau hyn, gall yr amgylchiadau hyn effeithio’n ddifrifol ar eu datblygiad.

Yn ôl adroddiad Prif Swyddog Meddygol Cymru a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2016, mae’r bwlch mewn anghydraddoldebau iechyd rhwng y cyfoethocaf a’r tlotaf yn lledu. Mae enghraifft berffaith o hyn i’w weld ym mhydredd dannedd pobl ifanc. Er bod canrannau plant â phydredd dannedd yng Nghymru wedi gostwng o 48 y cant yn 2008 i 35 y cant yn 2015, sy’n newyddion da iawn, mae’r ffigurau wedi codi’n syfrdanol ym Merthyr i 57 y cant. Mewn geiriau eraill, mae dros hanner y plant yn yr ardal honno yn dioddef o bydredd dannedd. Ac yn ôl Cymdeithas Ddeintyddol Prydain, yng Nghymru yn gyffredinol, mae bron i ddwy ran o dair o bobl ifanc yn eu harddegau yn dioddef o bydredd dannedd, gan eu gwneud 60 y cant yn fwy tebygol o gael eu heffeithio gan y clefyd na’u cyfoedion yn Lloegr. Rwy’n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod y ffigurau’n peri pryder. Felly, pam y cyfeiriaf at fater o’r fath? Oherwydd dylem gofio pwysigrwydd iechyd y geg i les cyffredinol. Mae iechyd y geg gwael nid yn unig yn effeithio ar iechyd corfforol, ond hefyd ar hyder plentyn, ei iechyd meddwl a’i ddatblygiad.

Mae angen cael gwell dealltwriaeth hefyd o achosion salwch plant, a dyma ble y credaf fod monitro ac ymchwil effeithiol mor bwysig. Yn aml gwelwn anghydraddoldebau iechyd drwy brism o amddifadedd economaidd-gymdeithasol, ac weithiau byddwn yn anwybyddu agweddau eraill ar fywyd claf sy’n gallu cael effaith arnynt, megis eu rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, neu eu hiechyd meddwl neu gyfrifoldebau rhiant. Rwy’n dal i bryderu nad oes gennym ddealltwriaeth ddigon da o’r unigolyn i allu mynd i’r afael â’u hanghenion yn effeithiol ac yn ddigonol. Er mwyn gwneud hynny, mae angen cyflawni ymchwil mwy manwl ar draws pob grŵp oedran, ac mae angen inni ehangu’r ymchwil er mwyn dadansoddi effeithiau pwysau cymharol fodern, megis cyfryngau cymdeithasol, ac effeithiau pornograffi, gwrthrycholi menywod ifanc, yn arbennig, gan y cyfryngau, a bwlio di-baid gan gyfoedion ar iechyd a lles plant. Yn wir, rwyf newydd gael e-bost yr wyf am ei ddarllen—neu ran ohono—gan fenyw ifanc a ddywedodd,

Mae’r pwysau i fod yn berffaith, i edrych yn berffaith, i ymddwyn yn berffaith, i gael y corff perffaith, i gael y grŵp perffaith o ffrindiau, y swm perffaith yn ‘hoffi’ ar Instagram—ac os nad ydych yn cyrraedd y safonau chwerthinllyd o uchel hynny, yna bydd yr hunangasineb a’r bwlio’n dechrau.

Dyma pam y mae hi mor bwysig i ni wir ddeall yr effeithiau y mae’r rhain yn eu cael ar bobl ifanc.

Yng Nghymru, mae cynifer ag un o bob tri o’n plant yn byw o dan y llinell dlodi, ond unwaith eto, mae yna ddiffyg data amlwg ar ddyfnder y tlodi hwn. Wrth gynnal astudiaethau i ymdrin â hyn, mae angen i ni hefyd ystyried cymathu ymchwil ar lefelau sy’n manylu ar ryw, anabledd ac ethnigrwydd, oherwydd yn y pen draw bydd yn darparu gwybodaeth well a mwy cywir i lunwyr polisi allu seilio eu penderfyniadau arni. Mae’n rhaid i ni symud oddi wrth y dull un maint i bawb a sicrhau ein bod yn meithrin dealltwriaeth lawer gwell. Mae hyn yn cyd-fynd â’r galwadau a wnaed yn adroddiad y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant ar gyflwr iechyd plant ar gyfer 2017. Mae’n galw ar Lywodraeth Cymru i ariannu astudiaeth hydredol i dracio canlyniadau babanod, plant a phobl ifanc sy’n tyfu i fyny yng Nghymru i greu data a fydd yn llywio polisïau a gwasanaethau’n uniongyrchol. Yn ogystal, mae’n nodi bod angen i’r arolwg poblogaeth Healthwise gymryd ymatebion gan rai o dan 16 oed hefyd. Nawr, mae’r ddau argymhelliad hwn yn bwysig a hefyd yn gweithio ochr yn ochr ag ymgyrch CLIC Sargent i bwyso ar Lywodraeth Cymru i ddechrau casglu data profiad cleifion canser rhai o dan 16 oed, rhywbeth nad ydynt yn ei wneud ar hyn o bryd. Mae’r GIG yn Lloegr wedi ymrwymo i fethodoleg i wneud hyn, a hoffwn ofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, ystyried hyn ar gyfer Cymru.

Bydd yr holl argymhellion hyn yn ein helpu i dargedu adnoddau’n well, ond ar gost fach iawn. Gan fod yr astudiaethau hyn eisoes yn digwydd, y cyfan y byddai ei angen yw naill ai ehangu rhagor ar yr astudiaethau hynny neu fân welliannau a newidiadau i’r fethodoleg ymchwil.

Mae’r adroddiad hefyd yn awgrymu y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda’i chymheiriaid mewn rhannau eraill o’r DU i nodi bylchau o ran casglu data ac i sicrhau bod modd cymharu’r ffynonellau presennol â gwledydd eraill y DU. Nawr, nid ydym yn ceisio gosod un rhan o’r DU yn erbyn y llall yma. Ond drwy gyfuno gwybodaeth, drwy gyfuno adnoddau ac arferion gorau, yna rwy’n teimlo bod gennym well gobaith o wella canlyniadau i bawb.

Roedd adroddiad CLIC Sargent yn tynnu sylw hefyd at ganfyddiad pryderus iawn arall, sy’n effeithio’n ddifrifol iawn ar ddioddefwyr canser ifanc. Gwelsant fod pobl ifanc yn teimlo nad oedd pobl yn gwrando arnynt neu’n eu cymryd o ddifrif wrth sôn wrth feddygon teulu am eu symptomau am y tro cyntaf. Mae hyn yn peri pryder, gan ein bod i gyd yn gwybod ei bod hi’n hanfodol yn achos llawer o ganserau i ni eu dal yn gynnar. Yn ogystal, mae meddygon teulu yn nodi diffyg cyfleoedd hyfforddi fel un o’u tri phrif rwystr i ganfod canser mewn pobl ifanc. Byddwn yn annog Ysgrifennydd y Cabinet i ymchwilio i’r mater hwn fel blaenoriaeth, er mwyn sicrhau bod gan bobl ifanc y llais y maent yn ei haeddu.

Yn olaf, cyn i mi orffen, hoffwn ganolbwyntio ar agwedd lles iechyd plant. Gall mesuriadau goddrychol o iechyd a lles plant ein helpu i ddeall y gwahanol fathau o broblemau iechyd meddwl a wynebir gan blant a phobl ifanc yn well. Mae ymchwil gan Gymdeithas y Plant wedi ceisio archwilio’r patrymau rhywedd mewn perthynas â lles plant yn y DU, a gwelodd eu hadroddiad diweddar, ‘Good Childhood Report 2016’, fod gan ddangosyddion gwrthrychol, megis strwythur y teulu ac incwm y cartref, gysylltiad llawer gwannach â lles plant na dangosyddion sy’n oddrychol neu’n agosach atynt, megis ansawdd eu perthnasoedd teuluol a dulliau eraill o fesur amddifadedd sy’n canolbwyntio ar y plentyn. Aeth yr adroddiad rhagddo i ganfod bod nifer y merched rhwng 10 a 15 oed a oedd yn diffinio eu hunain yn anhapus wedi codi o 11 i 14 y cant dros gyfnod o bum mlynedd, a bod y ffigurau ar gyfer nifer y bechgyn yn yr un grŵp oedran dros yr un cyfnod wedi aros yn sefydlog ar 11 y cant.

Mae mudiad y Geidiaid hefyd wedi gwneud gwaith mewn perthynas â’r mater hwn yn eu harolwg o agweddau merched yn 2016. Canfu na fyddai 33 y cant o ferched rhwng 11 a 21 oed yn gofyn am gymorth, am fod disgwyl i ferched ymdopi, sydd, yn fy marn i, yn feirniadaeth gyfunol o’r modd yr ydym yn eu magu. Ac nid wyf yn ymddiheuro am bwysleisio’r adroddiad Girlguiding a’r adroddiadau eraill sy’n canolbwyntio ar fenywod ifanc, heddiw o bob diwrnod—Diwrnod Rhyngwladol y Menywod—gan fod yr adroddiad hwnnw’n nodi hefyd fod merched rhwng 11 a 21 oed yn dweud mai iechyd meddwl a lles yw’r materion pwysicaf iddynt hwy, er mwyn gwella bywydau merched a menywod. A phan ofynnwyd pa gamau gweithredu yr oeddent am eu gweld, dywedodd 34 y cant o’r ymatebwyr eu bod am weld mwy o gymorth i bobl iau gyda’u hiechyd meddwl. Mae’n destun gofid fod dros un rhan o bump wedi honni nad oeddent yn gwybod i bwy i ofyn am gymorth, gyda’r ffigurau hyn yn codi yn nes at un rhan o dair yn y grŵp oedran hŷn agored iawn i niwed rhwng 17 a 21 oed. Rwy’n derbyn mai arolwg ar gyfer y DU yn gyfan oedd hwn, gan nodi barn gan Geidiaid Cymru, ond roedd yn cynnwys barn gan Geidiaid Cymru a byddwn yn pwyso am astudiaeth debyg yng Nghymru i helpu i lywio polisi. Fodd bynnag, nid wyf yn dychmygu y bydd y canfyddiadau mor wahanol â hynny. Credaf fod y canfyddiadau’n amlygu nad yr henoed yn unig sy’n teimlo unigedd ac ofn, maent hefyd yn cael eu teimlo gan lawer o bobl ifanc ac yn effeithio ar eu lles. Dyna pam y mae tua 7 y cant—neu ai dyna pam y mae tua 7 y cant o fechgyn 15 oed a 9 y cant o ferched 15 oed yn ysmygu’n rheolaidd? Mae’r niferoedd wedi gostwng yn y blynyddoedd diwethaf, ond nid i lefel gwledydd eraill yr UE. Mae hwn yn fom sy’n tician, ac os nad awn i’r afael ag ef yn ddigonol, bydd yn cael effaith hirdymor ddifrifol ar iechyd yr unigolyn. Ai dyma pam y mae camddefnyddio alcohol ymhlith yr ifanc ar gynnydd, fel y mae hunan-niweidio ac anhwylderau bwyta?

Wrth i ferched dyfu’n hŷn, maent yn fwy tebygol na bechgyn o brofi problemau emosiynol megis gorbryder ac iselder. Mae’r problemau emosiynol weithiau’n ymddangos ar ffurf cyflyrau fel anorecsia, cyflyrau y gellir eu trin, ond yn aml maent yn effeithio’n hirdymor ar iechyd ar ôl i’r cyflwr ei hun gael ei drin. Bydd pobl ag anorecsia yn aml yn dioddef o glefyd yr esgyrn brau yn ddiweddarach mewn bywyd, neu gael problemau cenhedlu o ganlyniad i gyflwr y gellid bod wedi’i drin o’i ddal a’i ganfod yn gynharach.

Gall fod gan oroeswyr canser ifanc anghenion iechyd meddwl hirdymor hefyd. Mae CLIC Sargent yn nodi y gall canser effeithio ar bob rhan o fywyd person ifanc, gan gynnwys addysg, iechyd emosiynol, perthnasoedd a hyder. Ysgrifennydd y Cabinet, yr hyn sydd angen i ni ei sicrhau yw ein bod yn cynhyrchu plant gwydn a chytbwys a fydd yn tyfu’n oedolion gwydn a chytbwys. Mae angen i ni ganolbwyntio ein hymdrechion ar sicrhau bod plant yn cael mynediad at gymorth iechyd meddwl effeithiol. Mae angen i ni sicrhau bod plant yn cael eu dysgu ynglŷn â gwerth mabwysiadu patrymau ymddygiad ffordd o fyw iach a ffurfio perthnasoedd da. Mae angen i ni roi cyfle iddynt dyfu mewn amgylcheddau â chymorth, lle y mae rhieni a gofalwyr yn gallu ac yn cael eu galluogi i gynorthwyo eu plant. Mae arnom angen gweledigaeth glir a diamwys ar gyfer iechyd a lles ein plant, a byddai’r Ceidwadwyr Cymreig yn dymuno mynd ar y daith honno gyda chi er mwyn rhoi’r weledigaeth honno ar gyfer plant Cymru.