Part of the debate – Senedd Cymru am 4:19 pm ar 8 Mawrth 2017.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf i groesawu y cynnig yma gan y Ceidwadwyr? Ac mi wnaf i gynnig gwelliannau rydym ni’n credu sydd yn cryfhau y cynnig hwn ymhellach. Rydym yn ymwybodol, wrth gwrs, o’r effaith mae sicrhau tai o ansawdd da, gofal iechyd, addysg a bod yn ddiogel yn y cartref, ac ati, yn eu cael ar ddatblygiad plentyn. Rwy’n siŵr bod rhai ohonoch chi yn cofio rhai o ddadleuon blaenorol Plaid Cymru yn y Siambr yma ar atal troi teuluoedd efo plant allan o’u cartrefi, lle rydym ni wedi rhestru canlyniadau niferus a negyddol digartrefedd, tai gorlawn a thai gwael ar blant, ond mae wastad yn werth atgoffa ein hunain bod plant sy’n byw mewn tai sydd ddim wedi eu gwresogi’n ddigonol ac mewn amodau gwael yn fwy na dwywaith yn fwy tebygol o ddioddef o broblemau brest ac anadlu fel asthma a broncitis. Mae perthynas gref rhwng y lefel o dai gorlawn y mae plant yn ei brofi a’r haint helicobacter pylori, sy’n un o brif achosion canser y stumog ac afiechydon eraill yn y system dreulio. Maen nhw ddwywaith yn fwy tebygol o ddatblygu afiechydon o’r fath pan maen nhw’n cyrraedd rhyw 65 i 75 mlwydd oed. Mae gan blant digartref bedair gwaith gymaint o heintiau anadlol; maen nhw bum gwaith mwy tebygol o gael heintiau’r stumog neu ddolur rhydd; maen nhw ddwywaith mor debygol o orfod cael ymweliad brys â’r ysbyty; maen nhw chwe gwaith yn fwy tebygol o gael problemau lleferydd ac atal dweud; a phedair gwaith y gyfradd o asthma o’u cymharu â phlant sydd ddim yn ddigartref. Mae’r rhestr yma o sgil-effeithiau dechrau gwael mewn bywyd yn rhestr hir, ond mae hi’n werth mynd drwyddi dro ar ôl tro, ac hyd nes y bydd y diwylliant gwleidyddol ehangach yn San Steffan yn cydnabod, er enghraifft, nad ydy hi byth yn dderbyniol i gydbwyso cyllideb drwy wneud plant yn sâl drwy doriadau i fuddsoddiadau ac ati, mi fyddwn ni yn ailadrodd y pwyntiau yma dro ar ôl tro. Ac mae hynny ynglŷn â thai, rwy’n meddwl, yn cael ei adlewyrchu yn ein gwelliant cyntaf ni.
Mi wnaf i symud at ein gwelliant nesaf ni. Mae’n eithaf amlwg, rwy’n meddwl, fod y dystiolaeth yr ydym ni’n ei chael gan wyddonwyr niwrolegol yn dangos bod datblygiad yr ymennydd yn parhau yn gyflym drwy flynyddoedd yr arddegau ac i mewn i flynyddoedd cynnar rhywun fel oedolyn, felly mae’n hanfodol, rwy’n meddwl, yn fy marn i, fod iechyd a lles plant yn gorfforol ac yn feddyliol yn cael eu cefnogi wrth iddyn nhw dyfu i fyny drwy y blynyddoedd yma. Mae gan y Llywodraeth, wrth gwrs, strategaeth iechyd plant hyd at saith oed, ond rŷm ni o’r farn bod angen cael cymorth priodol y tu hwnt i’r oedran hwnnw a thrwy gydol blynyddoedd yr arddegau. Mae angen i’r strategaeth honno ymdrin ag iechyd corfforol, ond rwy’n meddwl ei bod hi’n deg dweud bod angen llawer mwy o gefnogaeth ar gyfer atal a thrin problemau iechyd meddwl hefyd, cyn iddyn nhw ddod yn gyflyrau gydol oes difrifol. Rŷm ni’n siarad yn aml am bwysigrwydd adnabod a thrin canser, er enghraifft, yn gynnar—mae’r un peth yn wir efo iechyd meddwl hefyd. Mae eisiau i ni gydnabod hynny a gweithredu yn strategol.
Mae ein gwelliant olaf ni yn adlewyrchu’r angen am ffocws parhaol ar fynd i’r afael â gordewdra. Mae gan ysgolion rôl hanfodol i’w chwarae yn fan hyn. Mi fuaswn i’n hoffi gweld chwaraeon a mathau eraill o weithgaredd corfforol, achos nid ydy pob plentyn yn mwynhau nac yn cael budd o chwaraeon cystadleuol, ond mae eisiau i’r cyfan chwarae rhan llawer mwy amlwg yn y cwricwlwm newydd. Yn amlwg, mi fydd hyn yn gofyn hefyd am well cyfleusterau chwaraeon. Ond, yn ogystal â hynny, rwy’n meddwl y dylai ysgolion ystyried sut y gallan nhw greu amgylchedd sy’n mynd i’r afael â gordewdra: ystyried beth sydd ar fwydlenni cinio ysgol yn fwy nag y maen nhw’n ei wneud yn barod—mae yna ddatblygu wedi bod, wrth gwrs; a rheoli mynediad at fwyd sothach drwy beiriannau gwerthu neu reoli a ydy disgyblion yn gallu cael têc-awes amser cinio ac yn y blaen. Hefyd, rwy’n meddwl bod gan athrawon gwyddoniaeth rôl wrth sicrhau bod disgyblion yn cael rhywfaint o lythrennedd iechyd fel eu bod nhw’n gallu gwahaniaethu rhwng cyngor bwyta iach yn seiliedig ar dystiolaeth a straeon dychryn a ffadiau deietegol ac yn y blaen.
Felly, dyna’n gwelliannau ni. Mi fyddwn ni’n pleidleisio yn erbyn gwelliant y Llywodraeth. Nid ydym ni’n argyhoeddedig bod y cymorth presennol yn ddigonol. Mi fuasai’n well gennym ni fod wedi gweld y geiriad yn pwysleisio yr angen am ailwerthusiad o’r sefyllfa ar hyn o bryd. Ond mae hwn yn gynnig pwysig iawn, ac o’i wella yn y ffordd yr ydw i wedi ei chynnig, rwy’n meddwl bod hwn yn gallu bod yn ddatganiad clir o’n huchelgais ni i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant yng Nghymru.