Part of the debate – Senedd Cymru am 6:00 pm ar 8 Mawrth 2017.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddechrau drwy groesawu’r ddadl hon heddiw ar sefydlu cyfnewidfa stoc i Gymru? Rwyf wedi bod yn awyddus iawn i glywed gan Neil McEvoy beth yw ei farn a’i gynigion ar gyfer cyfnewidfa stoc Gymreig. Mae hon yn ddadl werthfawr, er nad yw’n gynnig newydd. Mae’n awgrym a ystyriwyd gan weinyddiaethau blaenorol Llywodraeth Cymru, fel y gŵyr yr Aelod, rwy’n siŵr.
Ym mis Ionawr 2010, cyhoeddwyd adroddiad ar gyfnewidfa stoc i Gymru gan Robert Huggins a Daniel Prokop, ac awgrymai’r adroddiad, a oedd yn seiliedig ar sampl o 1,500 o gwmnïau a gynhyrchodd 169 o ymatebion, fod 36 y cant wedi mynegi peth diddordeb mewn rhestru ar gyfnewidfa stoc i Gymru. Wrth dyrchu ychydig yn rhagor i’r data, gwelwyd bod 8 y cant wedi ystyried cyhoeddi eu cyfrannau yn ystod y pum mlynedd flaenorol, byddai 19 y cant yn ystyried cyhoeddi eu cyfrannau yn ystod y pum mlynedd nesaf, ac 13 y cant arall yn y 10 mlynedd ar ôl hynny. Yn amlwg, dangosai fod peth archwaeth a diddordeb mewn cael cyfnewidfa stoc yng Nghymru, ond daeth y Llywodraeth i’r casgliad na ellid cyfiawnhau costau sefydlu cyfnewidfa stoc. Y rheswm am hyn oedd oherwydd y gall y gost o sefydlu cyfnewidfa stoc gyrraedd llawer o filiynau o bunnoedd oherwydd y costau sefydlu sylweddol, gan gynnwys, wrth gwrs, recriwtio, hyfforddi staff, systemau TG ac yn y blaen.
Yn 2008, ymchwiliodd Llywodraeth Cymru nifer o gyfleoedd i sefydlu marchnad stoc yng Nghymru ond unwaith eto, ni fwriwyd ymlaen â’r prosiect oherwydd y diffyg galw i gefnogi’r costau. Felly, nid yw’n glir o hyd a oes achos digon cryf dros sefydlu marchnad stoc ranbarthol yng Nghymru. Un o’r prif seiliau rhesymegol dros sefydlu cyfnewidfa stoc, fel y mae’r Aelod wedi nodi, fyddai llenwi bwlch yn y cyllid ar gyfer busnesau a rhoi cyfle i gwmnïau godi cyfalaf. Nawr, er ein bod yn cydnabod, wrth gwrs, fod mynediad at gyllid yn parhau i fod yn bryder i fusnesau yng Nghymru, mae yna eisoes ystod o gymorth ariannol ar gael yng Nghymru, ac nid yw’n glir pa fwlch neu pa fylchau a fyddai’n cael eu llenwi gan gyfnewidfa stoc ranbarthol.
Mae cefnogi busnesau yng Nghymru yn hanfodol o ran creu swyddi, hybu twf economaidd, cynyddu cynhyrchiant ac yn y blaen, ac mae llwyddiant busnes yn hanfodol yn nhwf yr economi ar draws y cymunedau yng Nghymru. Mae gwella mynediad at gyllid wedi bod yn flaenoriaeth, felly, i’r Llywodraeth ers blynyddoedd lawer, a thros yr amser hwnnw rydym wedi cyflwyno amrywiaeth o gronfeydd a chynhyrchion. Fel y gŵyr yr Aelodau, rydym yn parhau i fwrw ymlaen â’r ymrwymiad maniffesto i sefydlu banc datblygu i Gymru, ac mae’n amlwg fod angen mynediad at gyfalaf twf ar fusnesau sy’n tyfu. Bydd y banc datblygu’n helpu busnesau i ddod o hyd i’r partner cyllid cywir i ddenu cyllid preifat gyda’i gyllid dros dro ei hun pan fo angen. Ei nod fydd darparu lefelau uwch o gyllid i fusnesau bach a chanolig, a gwella integreiddiad y ddarpariaeth a chyngor a chymorth i fusnesau ar yr un pryd drwy weithio’n agosach gyda Busnes Cymru.
Ceir un neu ddwy enghraifft arall o’r camau yr ydym wedi’u cymryd i gefnogi busnesau’n ariannol yn syth ar ôl pleidlais refferendwm yr UE. Wrth gwrs, fe wnaethom lansio cynllun hyder Busnes Cymru, a oedd yn cynnwys cyfres o gamau gweithredu yr ydym bellach yn eu cyflawni, ac maent i gyd yn anelu at hyrwyddo hyder busnesau a gweithgarwch ar draws y wlad. Roedd yr ymyriadau’n cynnwys cyhoeddi cronfa twf a ffyniant newydd, a’n cronfa ad-daladwy ar gyfer busnesau bach a chanolig, fel bod Cymru’n parhau i fod yn lle deniadol i fusnesau fuddsoddi. Unwaith eto, cafodd ein gwasanaeth Busnes Cymru ei gyfunioni, wrth gwrs, ym mis Ionawr y llynedd, i’w gwneud yn haws i fusnesau Cymru a darpar entrepreneuriaid gael gafael ar y wybodaeth, y cyngor a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i sefydlu a thyfu eu busnesau.
Er mwyn gwneud achos dros gyfnewidfa stoc i Gymru, mae angen i ni ddeall yn glir pam nad yw cwmnïau Cymru’n gallu neu, o bosibl, yn barod i gael mynediad at ffynonellau cyllid a chyfnewidfeydd stoc presennol. Fel y dywedais ar y dechrau, ystyriwyd y mater o’r blaen, ac yn y gorffennol, daethpwyd i’r casgliad nad oedd y gwaith ymchwil yn darparu dadl ddigon cryf dros sefydlu marchnad stoc ranbarthol. Nid oes tystiolaeth glir fod marchnadoedd stoc rhanbarthol llai o faint yn arbennig o lwyddiannus wrth gystadlu â marchnadoedd mwy a ffynonellau ariannu amgen, ond wrth gwrs, rwy’n parhau’n agored i’r syniad o gyfnewidfa stoc pe bai’r galw am wasanaeth o’r fath yn cynyddu. Ar hyn o bryd, os oes rhwystrau i fynediad cwmnïau o Gymru at farchnadoedd stoc presennol, yna efallai mai ateb arall fyddai gweithio ar leihau rhwystrau o’r fath, yn hytrach na cheisio sefydlu cystadleuydd.
Ond os oes achos dros gael marchnad stoc yng Nghymru, credaf y dylai’r sector preifat arwain. Nid yw’n glir pa rôl y gallai, neu hyd yn oed y dylai’r sector cyhoeddus ei chwarae mewn marchnadoedd ecwiti preifat, ond gallaf sicrhau’r Aelodau mai ein blaenoriaeth o hyd fel Llywodraeth sydd o blaid busnes yw cyflawni amryw o gamau gweithredu i helpu cwmnïau newydd a phresennol i ddatblygu, i dyfu ac i ffynnu.