Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 14 Mawrth 2017.
Arweinydd y tŷ, mae'r ailbrisio ardrethi busnes yn rhoi ein stryd fawr mewn perygl. Mae llawer o fusnesau bach yn wynebu cynnydd anferth i’w biliau ardreth, ac eto nid yw eu trosiant yn cynyddu. I lawer, yr unig ddewis arall yw chwilio am adeiladau rhent â gwerth trethiannol llai oddi ar y stryd fawr, ac efallai mai hwn fydd y pennog gyda phwn a fydd yn torri asgwrn cefn y ceffyl i fanwerthwyr bach, annibynnol y stryd fawr. Mae cyllideb ddiweddaraf Llywodraeth y DU yn cynnig cap ar gynnydd i ardrethi busnes ar gyfer y cwmnïau bach hynny sydd ar fin colli eu rhyddhad ardrethi. Arweinydd y tŷ, a wnaiff eich Llywodraeth ystyried gwneud rhywbeth tebyg i fanwerthwyr bach y stryd fawr yma yng Nghymru?