Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 14 Mawrth 2017.
A gaf i ei gwneud yn eglur ein bod ni’n gwneud mwy na Llywodraeth y DU? Os edrychwch chi ar y cyllid ar gyfer y mesurau rhyddhad ardrethi a gyhoeddodd y Canghellor yr wythnos diwethaf, byddai'n dod i ychydig dros £12 miliwn. Pe byddem ni wedi dibynnu ar hynny, byddai wedi golygu £8 miliwn yn llai o gefnogaeth i fusnesau bach yng Nghymru. Mae gennym ni ddau gynllun pwrpasol wedi’u hariannu'n llawn. Rwy'n siŵr y bydd llawer o'r busnesau yn eich etholaeth yn elwa’n benodol ar y ddau hynny—nid dim ond y cynllun trosiannol, ond hefyd y cynllun newydd sy'n targedu’r talwyr ardrethi stryd fawr hynny yn benodol.