Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 14 Mawrth 2017.
Rwy’n cytuno â chynnig yr holwr gwreiddiol—nid oes unrhyw enghraifft well o'r hyn a drafodwyd gennym yr wythnos diwethaf yn y fan yma o economi sylfaenol na buddsoddi yn y maes hwn lle’r ydych chi’n cysylltu sgiliau ar lefel leol ac yn sicrhau bod gwariant cyfalaf Llywodraeth Cymru yn cael ei wasgaru ledled Cymru hefyd, oherwydd nid problem ranbarthol yw hon; mae wedi lledaenu ar draws Cymru o ran y tai hŷn sydd gennym ni. Yr hyn yr ydym ni ei eisiau gan Lywodraeth Cymru yw diben sydd wedi’i nodi’n fwy eglur o ran buddsoddi mewn effeithlonrwydd ynni ac, fel y gofynnwyd eisoes, rhywbeth sy'n cael ei roi i mewn i'r comisiwn seilwaith cenedlaethol fel tasg a nod y comisiwn hwnnw.