<p>Effeithlonrwydd Ynni mewn Cartrefi</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 14 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 1:39, 14 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Rwyf eisoes wedi dweud ein bod ni’n mynd i newid y cylch gwaith o ganlyniad i'r ymgynghoriad o ran y comisiwn seilwaith. Mae'n bwysig ein bod ni’n cydnabod ein bod ni’n parhau i fuddsoddi £108 miliwn bob blwyddyn i sicrhau bod dros 222,000 o gartrefi cymdeithasol yn bodloni ac yn cynnal safon ansawdd tai Cymru. Cyfeiriodd David Melding at y stoc dai hŷn yng Nghymru, ond mae'r safon yn ei gwneud yn ofynnol i bob cartref cymdeithasol presennol sicrhau sgôr ynni o D neu uwch. Wrth gwrs, mae hon yn rhaglen Cymru gyfan ac mae cyllideb o £20 miliwn am gael ei rhoi ar gael i gefnogi'r rhaglen hon.