Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 14 Mawrth 2017.
Mae'n bwysig ein bod ni’n cydnabod gwerth allforion i Gymru ar gyfer y flwyddyn hyd at ac yn cynnwys 2016—£12.3 biliwn, cynnydd o £725 miliwn o’i gymharu â’r flwyddyn cynt. Wrth gwrs, fel y mae arweinydd Plaid Cymru yn dweud, mae Cymru yn elwa’n aruthrol ar integreiddio presennol gyda marchnad sengl yr UE, gyda mynediad at dros 500 miliwn o gwsmeriaid. Felly, gallai hynny fod yn effaith enfawr, yn amlwg, o ran y rhagolygon o ran sut yr ydym ni’n ymadael a sut yr ydym ni’n gwneud yn siŵr bod buddiannau Cymru yn cael eu diogelu.