<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 14 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 1:41, 14 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Mae Plaid Cymru yn rhagweld dyfodol anodd i’r allforwyr hynny sy'n dibynnu ar y farchnad sengl. Mae gennym ni rai yn Llywodraeth y DU yn sôn erbyn hyn am adael yr UE heb unrhyw gytundeb o gwbl, a fydd yn golygu rheolau Sefydliad Masnach y Byd i bob pwrpas. Dyna fyddai'r math caletaf posibl o Brexit. Gallai arwain at dariffau yn y dyfodol a rhwystrau eraill. Ac ar yr ochr gymdeithasol ac amgylcheddol, gallai arwain at ddadreoleiddio a gostwng safonau. Mae Llywodraeth y DU wedi nodi bellach y bydd y llythyr erthygl 50 yn cael ei anfon yn ddiweddarach y mis hwn. Mae hynny'n golygu bod ffenestr o gyfle, ffenestr lle gellir cael rhywfaint o ddylanwad. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod yn awyddus i Lywodraeth y DU ymgynghori â hi. Tybed a allwch chi ddweud wrthym: a ydych chi wedi cael unrhyw ymgynghoriad eto? A beth yw goblygiadau Llywodraeth y DU yn cyflwyno’r llythyr erthygl 50 hwnnw heb ymgynghori’n llawn â Chymru o ran ei gynnwys?