Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 14 Mawrth 2017.
Bydd arweinydd y tŷ wedi gweld nad oedd cyllideb yr wythnos diwethaf yn llwyddiant ysgubol i’r Canghellor nac i'r Llywodraeth. A ydy hi a Llywodraeth Cymru yn dysgu unrhyw wersi o'r profiad hwnnw, gyda golwg ar sut y maen nhw’n mynd i arfer y pwerau amrywio trethi yr ydym ni ar fin eu cael o dan Ddeddf Cymru 2017?