Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 14 Mawrth 2017.
Wel, rwy’n meddwl, o ran cyllideb yr wythnos ddiwethaf—rwy’n credu iddi gael ei disgrifio fel y gyllideb 'omNICshambles', cyllideb yn sicr sydd wedi taro pobl hunangyflogedig yn galed iawn gyda chynnydd o £2 biliwn i gyfraniadau yswiriant gwladol. Ac mae hynny’n effeithio ar lawer o bobl yr ydym ni’n siarad amdanynt, ac mae'r FSB yn siarad amdanynt, o ran pobl hunangyflogedig sy'n cymryd risgiau, gan arwain twf a chynhyrchiant yn yr economi. Felly, nid oes angen unrhyw wersi arnom ni. Mae Llywodraeth y DU a 'Spreadsheet Phil' angen gwersi gennym ni, a chan ein Hysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol byddwn i’n dweud, oherwydd, mae'r cyllid ychwanegol—[Torri ar draws.] A gaf i ddweud, rydych chi wedi gofyn y cwestiwn i mi, Neil Hamilton—?