Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 14 Mawrth 2017.
Wel, rwy’n meddwl bod yr Aelod wedi gweld dyraniadau cyfunol Llywodraeth Cymru ar gyfer awdurdodau lleol, byrddau iechyd ac awdurdodau heddlu ar gyfer 2017-18, ac wedi gweld mai dim ond un ardal sydd lle ceir dyraniad ychydig yn wahanol y pen, a hoffwn rannu hyn eto gyda'r Aelod. O ran gwariant cyfalaf, ar sail Cymru gyfan mae hynny’n hanfodol bwysig o ran ein buddsoddiad mewn tai cymdeithasol, ein buddsoddiad mewn ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, a’n buddsoddiad mewn trafnidiaeth. Gallaf, unwaith eto, roi’r buddsoddiadau i chi mewn, er enghraifft, rheoli perygl llifogydd ac arfordirol, yn cefnogi Cymru gyfan gyda £144 miliwn; £700 miliwn i wella ein rhwydwaith cefnffyrdd; ac o ran y gogledd, yn arbennig o bwysig, £50 miliwn i hybu datblygiadau metro gogledd-ddwyrain Cymru, gyda photensial i ehangu i’r gorllewin yn y dyfodol. Ond, mae'n rhaid i mi ddweud, o ran y gyllideb atodol, mae’r hyn a oedd yn y gyllideb atodol honno’n bwysig iawn i bobl Cymru. Mae'n £170 miliwn i gefnogi GIG Cymru—i roi un enghraifft yn unig—ac £16 miliwn i gronfa driniaeth ar gyfer mathau newydd o driniaeth; cyllid ychwanegol o £20 miliwn ar gyfer addysg uwch; a £55.5 miliwn yn ychwanegol i gefnogi'r gwaith o adeiladu a chynnal a chadw'r rhwydwaith cefnffyrdd yng Nghymru, gan gynnwys cynlluniau i gyflymu'r gwaith o gyflawni ffordd osgoi Llandeilo yn sgil ein cytundebau cyllideb. Felly, gadewch i ni gydnabod pwysigrwydd ein hystyriaethau.