Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 14 Mawrth 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, ceir cytundeb prifddinas-ranbarth Caerdydd, ceir cytundeb dinas bae Abertawe arfaethedig, a cheir cytundeb twf gogledd Cymru. Pa ystyriaeth a roddwyd i gytundeb twf canolbarth Cymru ar yr un raddfa, i sicrhau bod lefel debyg o fuddsoddiad ym mhedwaredd rhanbarth economaidd Cymru sy’n weddill?