Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 14 Mawrth 2017.
Mae Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru yn parhau i weithredu ein rhaglenni ariannu'r UE, fel y cytunwyd gyda'r Comisiwn Ewropeaidd, i ddarparu swyddi a thwf. Mae bron i ddwy ran o dair o'r arian wedi cael ei ymrwymo hyd yn hyn, a’n nod yw buddsoddi holl arian yr UE sydd ar gael i Gymru erbyn dechrau 2019.